Emyr Huws Jones
cyfansoddwr a aned yn Llangefni yn 1950
Cyfansoddwr a cherddor o Gymru yw Emyr Huws Jones (ganwyd Chwefror 1950). Mae'n gyn-aelod o fandiau Y Tebot Piws a Mynediad am Ddim ac yn gyfansoddwr caneuon adnabyddus fel "Cofio Dy Wyneb", "Ceidwad y Goleudy" a "Rebal Wicend".[1]
Emyr Huws Jones | |
---|---|
Ganwyd | Chwefror 1950 Llangefni |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, cerddor, cyfarwyddwr ffilm |
Fe'i magwyd yn Llangefni. Roedd tua 12 pan gafodd gitâr a cafodd ei ddylanwadu gan gerddoriaeth Bob Dylan.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Llangefni a Choleg y Brifysgol, Bangor. Daeth yn ffrindiau gyda Alun 'Sbardun' Huws a ffurfiodd y band Y Tebot Piws gyda Stan Morgan-Jones a Dewi 'Pws' Morris.
Ar ôl gadael y coleg, cafodd swydd yn llyfrgell y dre' yn Aberystwyth, lle roedd yn cymysgu efo'r myfyrwyr oedd yn yfed yn y Blingwyr. Daeth yn ffrindiau gyda Emyr Wyn a chafodd wahoddiad i ymuno gyda Mynediad am Ddim.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cofio Dy Wyneb: Hel atgofion gydag Emyr Huws Jones yn 70 oed , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2020. Cyrchwyd ar 15 Chwefror 2020.