Dewi 'Pws' Morris
Cerddor, bardd, actor a chomediwr yw Dewi 'Pws' Morris (ganwyd 21 Ebrill 1948). Mae'n adnabyddus am fod yn brif leisydd Y Tebot Piws ac yn ddiweddarach am ei gyfresi comedi ar S4C. Ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2010 a 2011.
Dewi 'Pws' Morris | |
---|---|
Ffugenw | Dewi Pws ![]() |
Ganwyd | Dewi Gray Morris ![]() 21 Ebrill 1948 ![]() Treboeth ![]() |
Man preswyl | Tre-saith, Nefyn ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cerddor, bardd, digrifwr ![]() |
Cyflogwr |
Bywyd cynnarGolygu
Ganwyd Dewi Gray Morris yn Nhreboeth, Abertawe.[1] Aeth i Ysgol Gymraeg Lôn Las ac yna Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe.[2] Daeth i sylw Cymru gyfan gyntaf fel aelod o Aelwyd yr Urdd, Treforys. Wedi hynny, aeth i Goleg Cyncoed i hyfforddi'n athro a bu'n dysgu am rai blynyddoedd yn y Sblot, Caerdydd, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, datblygodd ei ddiddordeb ym myd actio, gyda swydd llawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru.[3]
GyrfaGolygu
CerddoriaethGolygu
Bu'n aelod o'r band pop cynnar Y Tebot Piws ac wedyn y supergroup Cymraeg cyntaf Edward H. Dafis. Enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 gyda'i gân "Nwy yn y Nen" a cyfansoddodd y gân nodedig "Lleucu Llwyd". Mae wedi chwarae gyda'r band pync-gwerin Radwm ac mae wedi ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.[4]
Datganodd wrth y Cymro ym mis Ionawr 2010 y byddai'n gwrthod ymddangos ar nifer raglenni Radio Cymru bellach gan eu bod yn chwarae gormod o gerddoriaeth Saesneg. Eglurodd nad oedd Radio Wales yn chwarae caneuon Cymraeg, felly doedd dim rheswm i'r unig sianel radio cenedlaethol Cymraeg chwarae caneuon Saesneg.[5]
Comedi ac actioGolygu
Chwaraeodd y cymeriad "Wayne Harries" ar Pobol y Cwm o'r cychwyn yn 1974 hyd at 1987. Roedd ganddo un o'r brif rannau yn y ffilm gomedi eiconig Grand Slam ym 1978. Yn yr 1970au ymddangosodd yn y gyfres i blant Miri Mawr. Bu'n actio hefyd yn y gyfres sebon Taff Acre (HTV Cymru, 1981). Yn yr 1980au daeth i sylw ehangach yn perfformio ac ysgrifennu yn y gyfres comedi sgets Torri Gwynt. Yn y 1990au cynnar bu'n serennu fel tad y teulu yn y gomedi sefyllfa Hapus Dyrfa.[1]
Bu'n actor ar y gyfres deledu Rownd a Rownd ers dechrau'r gyfres yn 1995 hyd at 2007 ac enillodd wobr y cyflwynwr rhanbarthol gorau am ei raglen Byd Pws ar S4C yng nghwobrau'r Royal Television Society yn 2003.[6]
Bywyd personolGolygu
Mae'n briod a Rhiannon a bu'n byw yn Nhre-saith[7] cyn ymgartrefu yn Nefyn, Gwynedd.[8]
Derbyniodd radd anrhydedd gan Brifysgol Abertawe ar 18 Rhagfyr 2018.[4]
LlyfryddiaethGolygu
- Llyfr i Blant dan Gant (Y Lolfa, 1972)
- Poster I Ti To (Y Lolfa)
- Pws! (Y Lolfa, 1986)
- gyda Steve Eaves, Robat Gruffudd, Robin Llwyd ab Owain, Posteri Poeth (pecyn o 4 poster â cerdd) (Y Lolfa, 2001)
- Teithiau Dewi Pws: Fo a Fi Gyda'i Help Hi (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Theleri Thŵp, Cyfres y Cewri 26 (Gwasg Gwynedd, 2003)
- gyda Rhiannon Roberts ac Eric Heyman, Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Hiwmor Pws, Cyfres Ti'n Jocan (Y Lolfa, 2007)
- gyda Rhiannon Roberts ac Eric Heyman, Dewi, Dwpsi a'r Aur (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
- Wps! (Gwasg Gomer, 2011)
- gyda Alun Gibbard, Straeon Tafarn (Y Lolfa, 2012)
- Llyfr Jôcs y LOL fa (Y Lolfa, 2013)
- gyda Rhiannon Roberts, Parri'r Pobydd (Gwasg Gomer, 2013)
- Popeth Pws (Y Lolfa, 2015)
Straeon ar GrynoddisgiauGolygu
- Straeon Cymru: 10 o Chwedlau Cyfarwydd (CD) (Scd2480) (Awduron: Esyllt Nest Roberts ac Elena Morus), Rhagfyr 2004 (Cwmni Recordiau Sain)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 "Pwy ydy Pwy yn Noson Lawen?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2007-10-31.
- ↑ Cyngor Llyfrau Cymru Adnabod Bardd (PDF). Adalwyd ar 27 Ionawr 2016.
- ↑ Llenyddiaeth Cymru - Rhestr Awduron Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2016.|
- ↑ 4.0 4.1 Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r diddanwr enwog o Gymru, Dewi Pws Morris. , Prifysgol Abertaw, 18 Rhagfyr 2018.
- ↑ "Dewi Pws Wedi Cael Llond Bol", Y Cymro, 15 Ionawr 2010.
- ↑ Ross wins TV entertainer award BBC 19 Mawrth 2003
- ↑ Erthygl o gylchgrawn Sgrîn
- ↑ Awn i ail Adfer bro... , BBC Cymru, 26 Tachwedd 2015. Cyrchwyd ar 20 Mehefin 2016.