Ena Thomas

Cogyddes o Gymraes

Cogyddes o Gymraes oedd Ena Thomas (5 Mehefin 19355 Gorffennaf 2020).[1] Daeth yn enwog fel cogyddes ar y rhaglen deledu cylchgrawn Heno yn y 1990au.[2]

Ena Thomas
Ganwyd5 Mehefin 1935 Edit this on Wikidata
Felindre Edit this on Wikidata
Bu farw5 Gorffennaf 2020 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcogydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Magwyd Ena yn Felindre yn ferch i löwr. Roedd teulu ei thad yn rhedeg gefail y pentref. Cychwynnodd ei gyrfa fel morwyn yng nghegin Ysbyty Treforys.[3] Aeth i Lundain i weithio fel cogydd a dringodd i safle cyd-bennaeth yng nghegin Ysbyty Coleg y Brifysgol gan astudio arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Polytechnig Battersea yr un pryd. Roedd rhaid iddi ddychwelyd adref cyn gorffen y cwrs,[4][5] a gweithiodd fel cogyddes mewn cartref gofal.

Am ddeng mlynedd ar hugain bu'n dysgu eraill i goginio mewn dosbarthiadau nos yng Nghaerfyrddin a Nantgaredig.[6]

Cychwynnodd fel cogyddes ar Heno yn 1993 pan oedd yn ei phumdegau hwyr a bu'n gyfrannwr cyson hyd at 2001, gyda slot rheolaidd ar nos Wener. Daeth yn ffefryn gyda'r gynulleidfa am ei hagwedd ddi-lol at goginio, a'i hoffter honedig o "joch o frandi". Fe'i dynwaredwyd ar y rhaglen deledu ddychanol Cnex.

Cyhoeddodd sawl llyfr ryseitiau yn y 1990au. Cofnododd ei hanes mewn hunangofiant, Blas ar Fywyd a ysgrifennwyd gan Catrin Beard a chyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2012.

Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd gasgliad o'i hoff ryseitiau i godi arian i elusennau'r NHS yn sgîl pandemig COVID-19. Roedd y llyfr electronig Hwyluso Coginio ar gael i'w lawrlwytho ar dudalen JustGiving er mwyn i bobol wneud rhodd o'i dewis. Cododd swm o £2,200 erbyn Gorffennaf 2020.[7]

Bywyd personol

golygu

Roedd Ena yn briod gyda Geoff ac yn byw yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin. Ganwyd dau fab iddynt.

Cododd filoedd lawer o bunnoedd at achosion da dros y blynyddoedd drwy gynnal nosweithiau coginio a raffl i Eisteddfodau a Merched y Wawr.

Wedi dioddef o glefyd niwronau echddygol (motor neuron) ers blynyddoedd, roedd yn byw yng nghartref gofal Plas Y Dderwen yng Nghaerfyrddin.[7] Bu farw yn 85 mlwydd oed ar ôl salwch hir.

Anrhydeddau

golygu

Fe'i hurddwyd yn Urdd Ofydd er Anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 gan ddewis yr enw barddol 'Y Gogyddes Ena'.[6] Cafodd gymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2007, lle'r oedd wedi bod yn fyfyriwr yn y Coleg Technegol gynt.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  The obituary notice of Ena THOMAS. Western Mail (11 Gorffennaf 2020).
  2.  Ena Thomas. Gwasg Gomer.
  3. Cofio am Ena Thomas, 'Brenhines y gegin' rhaglen Heno , BBC Cymru Fyw, 6 Gorffennaf 2020.
  4.  Blas ar Fywyd. Gwales.
  5.  https://www.gomer.co.uk/blas-ar-fywyd.html. Gwasg Gomer.
  6. 6.0 6.1  Anrhydeddau 2002. Gorsedd Cymru. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2020.
  7. 7.0 7.1  Hwyluso Coginio ( Cooking Made Easy ) by Ena Thomas. JustGiving (Mai 2020). Adalwyd ar 10 Gorffennaf 2020.