Llangynnwr

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llangynnwr, hefyd Llangunnor. Saif y pentref fymryn i'r dwyrain o dref Caerfyrddin, ger glan ddeheuol Afon Tywi. Cysegrwyd yr eglwys, yn dyddio o'r 14g, i Sant Ceinwr. Mae David Charles yr emynydd a Lewis Morris y bardd Eingl-Gymreig wedi eu claddu yn y fynwent.

Llangynnwr
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,381 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,314.91 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.857°N 4.276°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000531 Edit this on Wikidata
Cod OSSN433200 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Heblaw pentref Llangynnwr ei hun, mae'r Gymuned yn cynnwys pentref Nant-y-caws a dwy o faesdrefi Caerfyrddin, Tregynnwr a Phen-sarn. Mae pencadlys Heddlu Dyfed-Powys o fewn y gymuned yma. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 2,282 gyda 67.24% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cynrychiolir cymuned Llangynnwr yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangynnwr (pob oed) (2,381)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangynnwr) (1,111)
  
48%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangynnwr) (1885)
  
79.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangynnwr) (445)
  
41.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu