Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002

Nofel gan T. Gwynn Jones yw Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002. Cafodd ei chyhoeddi fel cyfres yn Papur Pawb yn ystod 1905.[1] Daeth allan fel llyfr dros ganrif yn ddiweddarach gan Melin Bapur.[2] Mae'n debyg mai hon oedd y nofel ffuglen wyddonol cynharaf yn yr Iaith Gymraeg.[3]

Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002
Clawr argraffiad Melin Bapur (2024)
AwdurT. Gwynn Jones
CyhoeddwrMelin Bapur (2024)
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncNofelau Cymraeg; Gwyddonias
ArgaeleddMewn print
ISBN978-1-917237-02-4

Crynodeb golygu

Mae'r nofel yn dilyn hynt dau feddyg yn y flwyddyn 2002 a chlaf iddynt, gŵr sydd wedi treulio'i fywyd mewn coma ond yn deffro un diwrnod gyda holl atgofion gŵr o 1905 o'r enw Lewys Meredydd.

Stori rhamantaidd yn ei hanfod yw hi sy'n cynnig gweledigaeth iwtopaidd o ddyfodol Cymru a'r Iaith Gymraeg. Mae'r nofel yn cynnwys yr iaith Esperanto sy'n iaith gyffredin rhwng cenhedloedd gwahanol ym myd 2002.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Alan Llwyd, Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2019_
  2. Enaid Lewys Meredydd, Gwefan Melin Bapur
  3. https://nation.cymru/culture/publisher-unearths-early-welsh-science-fiction-novel/