Endaf Gremlin (albwm)

Albwm Gymraeg yw Endaf Gremlin gan grŵp o'r un enw. Rhyddhawyd yr albwm yn Awst 2014 ar y label JigCal.

Endaf Gremlin
Albwm stiwdio gan Endaf Gremlin
Rhyddhawyd Awst 2014
Label JigCal

Grŵp a gafodd ei greu i hyrwyddo Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013, a rhyddhawyd eu halbwm cyntaf (a'r olaf) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli 2014. Roedd y grŵp yn cynnwys aelodau o Sibrydion, Candelas, Yr Ods, Racehorses a Cowbois Rhos Botwnnog.

Y band

Dewiswyd Endaf Gremlin yn un o ddeg albwm gorau 2014 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth golygu

Ydy, mae’n gawl potsh o synau a dylanwadau, ond serch hynny, dyma gasgliad gan gerddorion medrus a mentrus sy’n gwybod yn gwmws beth maent yn gwneud

—Miriam Elin Jones, Y Selar

Cyfeiriadau golygu