Band Cymreig ydy Yr Ods, a sefydlwyd yn 2006 gan Griff Lynch a Gruff Pritch yn Aberystwyth.

Yr Ods
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Yn 2009, chwaraeodd y band ar lwyfan y "Queens Head" yng Ngŵyl Glastonbury, yn ogystal â pherfformio yng ngŵyl Wakestock a Sŵn.[1] Fe enillon nhw Wobr Roc a Phop BBC Radio Cymru am y band newydd gorau yn 2009. Yr Ods oedd y band olaf i chwarae llwyfan Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol yn 2012 ym Mro Morgannwg.

Yn ôl Dyl Mei, "Mae Yr Ods yn feistri ar gymysgu gitar indie gyda phop modern gan greu caneuon bachog a chofiadwy."[2] Mae'r band wedi rhyddhau tair sengl - Defnyddio, Fel Hyn Am Byth a "Ble'r Aeth yr Haul"; mae'r caneuon yn amrywiol iawn o ran genre: ecno, pop, roc, a hyd yn oed fersiwn o gân Lily Allen, The Fear! Mae'r Ods hefyd wedi recordio addasiad o Tracsuit Gwyrdd gan Geraint Jarman. Rhyddhawyd y ddau sengl cyntaf, EP a dau albwm y baid ar label Rasal. Yn 2015, arwyddwyd y band ar label i-ka-ching, gyda'u trydydd sengl yn cael i'w ryddhau ar y label. Roedd y band yn rhan o gasgliad '5' i-ka-ching, gyda'r cân 'Tonfedd Araf' yn cael ei gynnwys ar yr albwm amlgyfrannog.

Yn 2010 rhyddhaodd y band yr EP, Yr Ods â oedd yn ôl Lisa Gwilym yn "cynnwys caneuon melodaidd a chofiadwy fel 'Cofio Chdi o'r Ysgol' a 'Nid Teledu oedd y Bai'". Enillodd y gân, 'Fel Hyn am Byth' Wobr Roc a Phop BBC Radio Cymru am y gân orau. Yn 2011 enillodd y band Wobr RAP Radio Cymru arall, y tro hwn fel 'Band y Flwyddyn'. Yn ogystal enillodd yr Ods Wobr am EP Gorau 2010 yng Ngwobrau Cylchgrawn Y Selar. Dilynwyd hyn gydag albwm arall yn Nhachwedd 2011, Troi a Throsi.

Yn haf 2013, rhyddhawyd ail albwm y band, Llithro. Mae'r albwm yn cynnwys caneuon cofiadwy fel "Pob Un Gair yn Bos","Addewidion" a "Gad Mi Lithro". Cafodd yr albwm ei enwebu am wobr 'Albwm Cymraeg y Flwyddyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.

Mae'r band yn dennu cynulleidfaoedd mawr yn eu perfformiadau prin. Yn 2015, aeth y band ar daith o amgylch Yr Almaen, cyn cloi Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau, ar lwyfan y maes. Roedd y band yn rhan o'r 'gig' bythgofiadwy ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy gyda cherddorfa'r 'Welsh Pops'. Hefyd yn perfformio roedd Candelas a Sŵnami.

Discograffiaeth golygu

  • "Nid teledu oedd y bai" (2010) EP ar Copa
  • Troi a Throsi (2011) Albwm ar label Copa
  • Llithro (2013) Albwm ar label Copa[3]
  • "Ble'r Aeth Yr Haul" / "Hiroes I'r Drefn" (2015) Sengl ar label I KA CHING

Cyfeiriadau golygu

  1. BBC Radio One's Big Weekend Adalwyd ar 03-07-2010
  2. www.bbc.co.uk; adalwyd Hydref 2016.
  3. Gwefan Sain; Archifwyd 2015-10-02 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 23 Gorffennaf 2013

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato