Endymion
Ym mytholeg Roeg, roedd Endymion (Ἐνδυμίων) yn fugail neu heliwr o Aeolia, neu yn ôl Pausanias yn frenin oedd yn teyrnasu yn Olympia yn Elis. Dywedid ei fod yn fab i Zeus a'r nymff Calyce. Ganed ef yn Thessalia ond daeth yn arweinydd carfan o Aeoliaid, a sefydlodd Elis.
Oherwydd ei harddwch, syrthiodd Selene, duwies y lleuad, mewn cariad ag ef. Dywedir iddi ofyn i Zeus roi ieuenctid tragwyddol iddo. Mewn fersiwn arall, roedd Endymion yn edrych mor hardd wrth gysgu mewn ogof ar fynydd Latmos, ger Miletus yn Caria, nes i Selene ofyn i Zeus a allai aros felly. Bob nos, byddai Selene'n ymweld ag ef wrth iddo gysgu.
Dywedir iddo gael mab, Aetolus, a ddaeth yn frenin Elis, ac yn ddiweddarach yn frenin Aetolia, a enwyd ar ei ôl.