Miletus
Hen ddinas Roegaidd a phorthladd ar arfordir gorllewin Anatolia oedd Miletus (Bysanteg neu Roeg ganoloesol: Palation, Tyrceg: Balat). Saif olion Miletus tua 30 km i dde'r ddinas Söke, Twrci. Roedd Miletus yn sefyll wrth aber Afon Meander, ac yn dra enwog am wneud brethynnau, ac am y fasnach eang a ddygid ymlaen rhyngddi a'r gwledydd gogleddol. Hynodwyd fel man geni Thales, un o saith doethwyr Gwlad Groeg, yr athronwyr Anaximander ac Anaximines, a'r cerddor Thimotheus.
Math | polis, safle archaeolegol |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Groeg yr Henfyd |
Sir | Balat, Ïonia, Aydın, Didim |
Gwlad | Twrci |
Cyfesurynnau | 37.53111°N 27.27556°E |
Cyn i'r Ïoniaid gymryd meddiant ohoni, fe ymddengys ei bod yn cael ei phoblogi yn bennaf gan y Cariaid. Sylfaenodd trigolion Miletus nifer o drefedigaethau yn ardal y Môr Du a'r Crimea yn foreu iawn, ac roedd hi'n meddu llynges oedd yn morio pob rhan o'r Môr Canoldir, a beiddiai ei llongau fynd hyd yn oed mor bell â Chefnfor yr Iwerydd. Bu rhyfeloedd maith a phwysig rhwng y Milesiaid a'r Lydiaid. Ar ôl gorchfygiad Lydia gan Cyrus Fawr, darostyngwyd hithau, ynghyd â'r oll o Ïonia. Parhaodd y ddinas i flodeuo, pa fodd bynnag, hyd nes y cyffrowyd hi i wrthryfel yn erbyn y Persiaid yn amser y rhyfel Ïoniaidd, pan y distrywiwyd hi yn 494 CC. Cafodd ei hailadeiladu, ond ni chyrhaeddodd drachefn ei phwysigrwydd a'i henwogrwydd blaenorol.