Dwy linell gyntaf englyn a dwy linell degsill o hyd yn dilyn ydyw'r englyn toddaid.

Dyma enghraifft allan o awdl Gwilym R Tilsley i Gwm Carnedd:

Cwm y brad a'r ymado, – ni welwyd
Eilwaith ffyniant ynddo;
I'r gwan a drigai yno – mawr fu baich
Gyrru gwŷr hoenfraich o greigiau'r henfro.

Mae'r Mae'r drydedd llinell yn gymwys fel llinell gyntaf englyn gyda chynghanedd (7 sill fel arfer) ac yna'r gair cyrch. Ond nid oes cysylltiad rhyngddo a'r llinell nesaf o ran cynghanedd, gan fod ganddi gynghanedd gyflawn ynddi hi ei hun.

Tydy'r englyn toddaid ddim yn un o'r pedwar mesur ar hugain, gan mai mesur gymharol newydd ydyw.

Gweler hefyd golygu