Enrique Peña Nieto
Gwleidydd o Fecsico o'r Partido Revolucionario Institucional (PRI) yw Enrique Peña Nieto (ganwyd 20 Gorffennaf 1966) a oedd yn Arlywydd Mecsico o 2012 i 2018. Gwasanaethodd yn swydd Llywodraethwr Talaith Mecsico o 2005 i 2011.
Enrique Peña Nieto | |
---|---|
Ffugenw | EPN |
Ganwyd | Enrique Peña Nieto 20 Gorffennaf 1966 Atlacomulco de Fabela |
Man preswyl | Pozuelo de Alarcón |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Governor of the State of Mexico, Arlywydd Mecsico |
Taldra | 169 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Plaid Chwyldroadol Genedlaethol |
Priod | Angélica Rivera |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Grand Cross, Special Class of the Order of the Sun of Peru, Coler Urdd Siarl III, Order of Juan Mora Fernández, Urdd Abdulaziz al Saud, Urdd yr Eliffant, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Medal of the Oriental Republic of Uruguay, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Grand Cross of the Order of the Bath, Urdd y Quetzal, Urdd cenedlaethol Coler Uwch Cruz del Sur, Order of Mubarak the Great, Global Citizen Awards |
Gwefan | http://www.enriquepenanieto.com |
llofnod | |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd yn Atlacomulco, Talaith Mecsico, ac ef oedd yr un hynaf o bedwar plentyn. Roedd ei dad yn beiriannydd trydanol a'i fam yn athrawes.
Astudiodd am ei radd baglor yn yr Universidad Panamericana yn Ninas Mecsico, ac enillodd ei radd meistr gweinyddiaeth busnes o Sefydliad Technolegol Monterrey.
Gyrfa wleidyddol gynnar
golyguYmunodd Peña Nieto â'r PRI yn 1984 ac roedd yn weithgar yng ngwleidyddiaeth Talaith Mecsico. Fe ddaliodd swydd ysgrifennydd gweinyddol (2000–02) a chafodd ei ethol yn gyngreswr taleithiol yn 2003. Yn 2005, fe ymgyrchodd am swydd llywodraethwr Talaith Mecsico.
Llywodraethwr Talaith Mecsico (2005–2011)
golyguYmgyrch arlywyddol 2012
golyguEnillodd Peña Nieto yr etholiad gyda 38% o'r bleidlais.[1]
Arlywyddiaeth (2012–2018)
golyguWedi i Donald Trump gael ei urddo'n Arlywydd yr Unol Daleithiau yn Ionawr 2017, fe wnaeth Peña Nieto wfftio honiadau y byddai Mecsico yn talu am wal yr oedd Trump yn bwriadu codi ar hyd y ffin rhwng y ddwy wlad.[2]
Ildiodd yr arlywyddiaeth i Andrés Manuel López Obrador ar 1 Rhagfyr 2018.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Mecsico: Pena Nieto yn hawlio buddugoliaeth", Golwg360 (2 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 21 Mai 2018.
- ↑ "“Ni fydd Mecsico yn talu am wal Donald Trump”", Golwg360 (26 Ionawr 2017). Adalwyd ar 21 Mai 2018.