Enver Hoxha (16 Hydref 190811 Ebrill 1985) oedd arweinydd Albania o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd hyd ei farwolaeth yn 1985, yn rhinwedd ei swydd fel Prif Ysgrifennydd y Blaid Lafur Albania Gomiwnyddol. Cafodd ei eni yn Gjirokastër, yn ne Albania.

Enver Hoxha
Ganwyd16 Hydref 1908 Edit this on Wikidata
Gjirokastra Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ebrill 1985 Edit this on Wikidata
o ffibriliad fentriglaidd Edit this on Wikidata
Tirana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAlbania Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Paris
  • Prifysgol Brwsel Am Ddim
  • Prifysgol Montpellier
  • Marx-Engels-Lenin Institute
  • Moscow State Linguistic University
  • Université libre de Bruxelles
  • Communist University of the Toilers of the East
  • Albanian National Lyceum Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Albania, Minister of Defence, cadeirydd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadKarl Marx, Vladimir Lenin, Joseff Stalin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Ffrengig, Communist Party of Belgium, Plaid Lafur Albania Edit this on Wikidata
Mudiadanffyddiaeth Edit this on Wikidata
PriodNexhmije Hoxha Edit this on Wikidata
PlantIlir Hoxha Edit this on Wikidata
Gwobr/auHero of Albania, Arwr Genedlaethol Iwgoslafia, Urdd Lenin, Order of Suvorov, 1st class, Order of the People's Hero, Order of Skanderbeg Edit this on Wikidata
llofnod

Yn ogystal â bod yn arweinydd y Blaid Lafur Albanaidd, gwasanaethai fel Prif Weinidog Albania o 1944 hyd 1954 a Gweinidog Materion Tramor o 1946 hyd 1953.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd arweiniodd ymdrech Albania yn erbyn y goresgynwyr Eidalaidd. Yn 1941 sefydlodd Plaid Gomiwnyddol Albania ac roedd yn ysgrifennydd gyffredinol y blaid honno erbyn 1943.

Yn sgîl y toriad â'r Undeb Sofietaidd yn 1961, canlyniad yr anghydfod mawr rhwng yr Undeb Sofietaidd a Gweriniaeth Pobl Tsieina yn yr un flwyddyn, ochrodd Hoxha â Tsieina a throes ei gefn ar y gorllewin a'r Bloc Dwyreiniol fel ei gilydd. Edmygai Mao Zedong yn fawr a cheisiai greu wlad gomiywnyddol seiliedig ar Marcsiaeth-Leniniaeth "bur" ideoleg Mao ac, i raddau, Stalin. Bu'n frwd ei gefnogaeth i Tsieina hyd 1978 ac roedd Albania'n wlad ynysig yn Ewrop yn ystod ei deyrnasiad.

Ar ei farwolaeth yn 1985 fe'i olynwyd gan Ramiz Alia.