Eric Evans

chwarewr rygbi'r undeb, ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru

Roedd William Eric Evans (27 Chwefror 1894 - 21 Mehefin 1955) yn chwaraewr rygbi o Gymru ac yn ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru rhwng 1948–1955.

Eric Evans
Ganwyd27 Chwefror 1894 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1955 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, athro, gweinyddwr chwaraeon Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Castell-nedd Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganed Evans yng Nghastell-nedd ym 1894, yn ail fab i Gomer V Evans, prifathro Ysgol Genedlaethol Llangatwg a Martha ei wraig. Wedi cyfnod yn dysgu yn Ysgol y Cyngor yn y Clun aeth yn fyfyriwr i Goleg Santes Catrin, Caergrawnt.[1].

Gyrfa Rygbi golygu

Bu Evans yn chware rygbi i glwb Castell Nedd cyn mynd i'r brifysgol a bu hefyd yn chware i'r clwb yn achlysurol yn ystod gwyliau'r coleg. Yn y coleg bu'n chware i dîm y Brifysgol ac i Gymru Llundain.

Gwnaeth dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymyrryd ar addysg brifysgol a gyrfa rygbi Evans. Ymrestrodd gyda Gwarchodfa Gwirfoddolwyr y Llynges Frenhinol yn Llundain ym mis Tachwedd 1914. Cafodd ei drosglwyddo i'r King's Own Yorkshire Light Infantry chafodd ei bostio i Gallipoli ym mis mai 1915, lle fu'n gwasanaethu fel cêl-saethwr. Cafodd ei anafu yn ei fraich dde yn ystod y brwydro.[1] Ar ôl diwedd y rhyfel dychwelodd i Gaergrawnt [2] gan raddio ym 1922. Dychwelodd i Gymru i wasanaethu fel athro Saesneg a hyfforddwr rygbi, Ysgol Uwchradd Caerdydd. Ym 1923 roedd yn un o'r sawl a fu'n gyfrifol am sefydlu Undeb Rygbi Ysgolion Uwchradd Cymru, i'r hwn y priodolir y gwella safon rygbi Cymru yn y 1930au. Roedd yn gyfarwyddwr ar Gwmni Parc yr Arfau Caerdydd ac yn rhyddfreiniwr tref Hwlffordd.

Yn 1948 cafodd ei benodi fel i olynu un arall o fawrion rygbi Castell-nedd, Walter E. Rees, fel ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru. Roedd eisoes wedi bod yn gwasanaethu fel ysgrifennydd cynorthwyol anrhydeddus yr undeb am y ddwy flynedd flaenorol. Roedd Evans yn ddewis poblogaidd gan ei fod wedi bod yn aelod o’r undeb am yr un flynedd ar hugain blaenorol ac wedi profi trwy ei gysylltiadau â’r Undeb Rygbi Ysgolion ei ymrwymiad i hyrwyddo gêm Cymru. Yn ei dymor cyntaf fel ysgrifennydd daeth â gweinyddiaeth glir ac ymdeimlad o broffesiynoldeb. Yn ystod ei Nadolig cyntaf fel ysgrifennydd bu'n rhaid iddo ddychwelyd bron i gant o roddion a gyflwynwyd iddo gan bobl oedd yn gobeithio byddai'n rhoi ffafriaeth iddynt wrth ddosbarthu tocynnau rhyngwladol. Fel ysgrifennydd roedd yn erbyn y syniad o ddarlledu gemau rygbi rhyngwladol yn fyw ar y teledu rhag i bobl aros adref i wylio yn hytrach na fynychu'r gêm.[3] Bu Evans hefyd yn gyfrifol am wahardd y BBC rhag rhoi sylwebaeth radio ar gêm Cymru v Iwerddon ym 1951, wedi G. V. Wynne-Jones, un o sylwebwyr y gorfforaeth, honni mewn llyfr bod chwaraewyr Cymru yn cael eu talu am chware.[4]

Marwolaeth golygu

Yn 1955 bu farw Evans marw yn ei gartref yn Llanrhymni, Caerdydd tra roedd dal yn ei swydd. Roedd yn 61 mlwydd oed.[5] Yn ystod ei gyfnod fel ysgrifennydd gwelodd Cymru yn ennill dwy Goron Driphlyg a ffurfiad Undeb Ieuenctid Cymru ym 1949.

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Owen, O.L., gol. (1956). Playfair Rugby Football Annual 1955-56. London: Playfair Books Ltd.

Cyfeiriadau golygu