Biolegydd o'r Almaen oedd Ernst Heinrich Philipp August Haeckel (16 Chwefror 18349 Awst 1919), weithiau von Haeckel. Bu'n gyfrifol am ddarganfod, disgrifio ac enwi miloedd o rywogaethau newydd, ac am ddyfeisio nifer o dermau megis phylum, ecoleg a'r Protista.

Ernst Haeckel
GanwydErnst Heinrich Philipp August Haeckel Edit this on Wikidata
16 Chwefror 1834 Edit this on Wikidata
Potsdam Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 1919 Edit this on Wikidata
Jena Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, Teyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Johannes Peter Müller Edit this on Wikidata
Galwedigaethbiolegydd, meddyg, swolegydd, athronydd, naturiaethydd, ecolegydd, adaregydd, academydd, pysgodegydd, botanegydd, fforiwr, ffotograffydd, llenor Edit this on Wikidata
Swyddrheithor Prifysgol Jena, rheithor Prifysgol Jena Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadCarl Haeckel Edit this on Wikidata
PriodAnna Sethe, Agnes Huschke Edit this on Wikidata
PlantWalter Haeckel, Elisabeth Haeckel Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Darwin, Medal Cothenius, Medal Darwin–Wallace, Medal Linnean, Bressa Prize Edit this on Wikidata

Gwnaeth Haeckel lawer i gyhoeddi syniadau Darwin yn yr Almaen, a datblygodd y theori fod datblygiad biolegol unigolyn o unrhyw rywogaeth yn ail-adrodd esblygiad y rhywogaeth honno.

Gabed ef yn Potsdam, yr adeg honno'n rhan o deyrnas Prwsia. Bu astudio meddygaeth yn ninas Berlin, gan ymgymhwyso fel meddyg, yna bu'n astudio swoleg ym Mhrifysgol Jena. Yn ddiweddarach daeth yn Athro anatomeg gymharol ym Mhrifysgol Jena, a bu yno am 47 mlynedd.