Erthygl olygyddol 26 Ebrill Rénmín Rìbào
Ar fore 25 Ebrill 1989 cyfarfu aelodau Politburo Plaid Gomiwnyddol Tsieina yng nghartref Deng Xiaoping i drafod ymateb myfyrwyr i farwolaeth y cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Hu Yaobang. Defnyddiwyd sgwrs y cyfarfod hwn i lunio erthygl olygyddol 26 Ebrill Rénmín Rìbào (人民日报, Tsieineeg am "Papur Dyddiol y Bobl"). Yn ystod y cyfarfod, datganodd aelodau'r Politburo bu undebau tebyg i Solidarność yn cael eu ffurfio gan fyfyrwyr mewn prifysgolion Beijing.[1] Dywed bod y myfyrwyr hyn yn condemio arweinyddiaeth y Blaid Gomiwnyddol ac yn cwestiynu "cenhedlaeth hŷn y chwyldroadwyr proletaraidd",[1] yr oedd Deng ei hunan yn rhan ohonynt. Gan weld ei rym dan fygythiad, mynnodd Deng fod yn "glir yn gwrthwynebu'r aflonyddwch"[2] er mwyn rheoli'r sefyllfa. Yn syth wedi'r cyfarfod dechreuodd Hu Qili a Li Peng drefnu cyhoeddiad erthygl olygyddol yn Rénmín Rìbào i fynegi safbwynt dim-goddefiad y Blaid.[2] Ysgrifennodd y diprwy bennaeth propaganda Zeng Jianhui Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback y drafft a golygwyd gan Hu a Li. Ar noswaith 25 Ebrill darlledwyd yr erthygl olygyddol yn genedlaethol ar radio a theledu.[3]
Enghraifft o'r canlynol | Erthygl olygyddol, news article |
---|---|
Iaith | Tsieineeg |
Dyddiad cyhoeddi | 26 Ebrill 1989 |
Prif bwnc | Protestiadau Sgwâr Tiananmen |