Ethel Smyth
Cyfansoddwraig Seisnig oedd y Fonesig Ethel Smyth (23 Ebrill 1858 – 8 Mai 1944).
Ethel Smyth | |
---|---|
Ganwyd | Ethel Mary Smyth 22 Ebrill 1858 Sidcup |
Bu farw | 8 Mai 1944 Woking |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, libretydd, arweinydd, hunangofiannydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, llenor, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, nyrs |
Adnabyddus am | Der Wald, The March of the Women, The Boatswain's Mate, The Prison, Mass in D, Fête Galante, Piano Trio |
Arddull | opera |
Tad | John Hall Smyth |
Mam | Emma Struth |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Durham, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen |
Gwefan | https://www.ethelsmyth.org |
Cafodd ei geni yn Sidcup, Caint. Roedd ei thad, uwchfrigadydd yn y Corfflu Brenhinol y Magnelau, yn gwrthwynebu ei gwneud gyrfa mewn cerddoriaeth. Serch hynny, mae hi'n astudio cyfansoddi gyda Carl Reinecke yn yr Hochschule für Musik, Leipzig (1877), cyn cymryd gwersi preifat gyda Heinrich von Herzogenberg. Yn Leipzig cyfarfu â Brahms, Dvořák, Grieg, Tchaikovsky a Clara Schumann.
Mae ei gyfansoddiadau yn cynnwys caneuon, cerddoriaeth siambr, gweithiau i'r piano, gweithiau gerddorfaol, concerti, gweithiau corawl, ac operâu. Mae ei opera The Wreckers (1906) yn arbennig o bwysig yn hanes yr opera Seisnig.
Ym 1910 ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Women's Social and Political Union, WSPU), ac am ddwy flynedd ymroddodd ei hun i gweithio dros yr achos. Roedd ei chân "The March of the Women" (Ymdeithgan y Merched) (1911) yn cael ei defnyddio fel anthem mudiad pleidlais i fenywod. Ym 1912 cafodd ei harestio am gymryd rhan yn yr ymgyrch WSPU o dorri ffenestri; cafodd ei dedfrydu i ddau fis yng Ngharchar Holloway.
Ar ôl 1913 dechreuodd i golli ei chlyw, ac yn ei blynyddoedd olaf cyfansoddodd llai. Er hynny, trodd at ysgrifennu, a rhwng 1919 a 1940 cyhoeddodd deg llyfr, hunangofiannol yn bennaf.
I gydnabod ei gwaith fel cyfansoddwraig ac awdures, urddwyd Smyth yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) ym 1922. Bu farw yn Woking, Surrey, ym 1944.