Ethelred yr Amharod

Brenin Eingl-Sacsonaidd Lloegr (978-1013 a 1014-1016) oedd Ethelred II (tua 96823 Ebrill 1016), a adnabyddir hefyd fel Æthelred II, Aethelred II ac Ethelred yr Amharod (Hen Saesneg: Æþelræd a'r llysenw poblogaidd Unræd, yn llythrennol "drwg ei gynghor" ond a ddëellir yn gyffredinol fel "amharod"). Roedd yn fab i'r brenin Edgar a'i frenhines Ælfthryth. Nodwyd y rhan healeth o'i deyrnasiad (991–1016) gan ryfela amddiffynnol yn erbyn y Daniaid a geisiai oresgyn teyrnas Lloegr. Cafodd ei olynu gan Edmwnd Ystlyshaearn.

Ethelred yr Amharod
Ganwydc. 967 Edit this on Wikidata
Wessex Edit this on Wikidata
Bu farwLlundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, teyrn Lloegr Edit this on Wikidata
TadEdgar of England Edit this on Wikidata
MamÆlfthryth Edit this on Wikidata
PriodÆlfgifu of York, Emma o Normandi Edit this on Wikidata
PlantÆthelstan Ætheling, Edmund II of England, Eadred Ætheling, Eadwig Ætheling, Edward y Cyffeswr, Alfred Aetheling, Goda o Loegr, Edgar, Edward, Ecgberht (?), Eadgyth, Ælfgifu, Wulfhild, unknown daughter (?), unknown daughter2 (?) Edit this on Wikidata
LlinachTeyrnas Wessex Edit this on Wikidata

Yng Nghymru yr adeg yma trigai brenin tra gwahanol, Elystan Glodrydd, gyda'i gyfenw, mewn cyferbyniad i Ethelred 'Drwg ei Gyngor', yn ŵr cldfawr, uchel ei barch a ddyblodd maint ei diroedd gan greu ardal iddo'i hun rhwng y ddwy afon, Rhwng Gwy a Hafren (a elwid yn Fferleg ers talwm, Maesyfed heddiw) yng nghanolbarth Cymru.[1]

Ethelred a orchmynodd y gyflafan ar drigolion Danaidd Lloegr yn 1002 a adnabyddir fel Cyflafan Gŵyl Sant Bricius.

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 12.