Ether
Dosbarth o gyfansoddion organig ydy etherau. Maent yn cynnwys grŵp ether, sef atom o ocsigen sy'n gysylltiedig â dau grŵp alcyl neu aryl.[1] Eu fformiwla cyffredin ydy R–O–R'.
Mae diethyl ether, sy'n anasthetig, yn enghraifft; caiff ei adnabod yn gyffredinol fel "ether" (CH3-CH2-O-CH2-CH3). Maent yn gyffredin mewn cemeg organig a biocemeg.