Etoposid
Mae etoposid, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Etopophos ymysg eraill, yn feddyginiaeth cemotherapi a ddefnyddir i drin nifer o fathau o ganser.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₉H₃₂O₁₃.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | (5S,5aR,8aR,9R)-5-[(7,8-dihydroxy-2-methyl-4,4a,6,7,8,8a-hexahydropyrano[3,2-d][1,3]dioxin-6-yl)oxy]-9-(4-hydroxy-3,5-dimethoxyphenyl)-5a,6,8a,9-tetrahydro-5H-isobenzofuro[6,5-f][1,3]benzodioxol-8-one, (8aR,9R)-5-[[(2R,4aR,6R,7R,8R,8aS)-7,8-dihydroxy-2-methyl-4,4a,6,7,8,8a-hexahydropyrano[3,2-d][1,3]dioxin-6-yl]oxy]-9-(4-hydroxy-3,5-dimethoxyphenyl)-5a,6,8a,9-tetrahydro-5H-isobenzofuro[6,5-f][1,3]benzodioxol-8-one |
Màs | 588.184 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₉h₃₂o₁₃ |
Enw WHO | Etoposide |
Clefydau i'w trin | Niwroblastoma, canser y ceilliau, canser ar yr ymennydd, mycosis ffyngaidd, neoplasm troffoblastig, sarcoma ewing, histiocytosis, neoplasm diniwed ar yr ysgyfaint, canser y brostad, canser y groth, sarcoma kaposi, liwcemia myeloid aciwt, rhabdomyosarcoma, canser y bledren, lymffoma, germ cell cancer, b-cell lymphoma, lymffoma ddi-hodgkin, testicular malignant germ cell cancer, bone sarcoma, neuroblastoma, susceptibility to, diffuse large b-cell lymphoma, canser y ceilliau, carsinoma cell bychain yr ysgyfaint |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia d, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d |
Rhan o | response to etoposide |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnydd
golyguMae etoposid yn feddyginiaeth cemotherapi a ddefnyddir ar gyfer trin nifer o fathau o ganser. Mae'n cael ei werthu o dan yr enwau brand Eposin, Etopophos a Vepesid,. Mae'r mathau o ganser sydd yn cael eu trin gan etoposide yn cynnwys canser y ceilliau, canser yr ysgyfaint, lymffoma, lewcemia, neuroblastoma, a chanser yr ofari. Fe'i gweinir trwy'r geg neu chwistrelliad i mewn i wythïen[2].
Sgil effeithiau
golyguMae sgil effeithiau yn gyffredin iawn. Gallant gynnwys cyfrif isel o gelloedd gwaed, chwydu, colli archwaeth, dolur rhydd, colli gwallt a thwymyn. Mae sgil effeithiau difrifol eraill yn cynnwys adweithiau alergaidd a phwysedd gwaed isel. Bydd ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd yn debygol o niweidio'r babi. Mae etoposide yn perthyn i'r teulu meddyginiaeth ataliol topoisomerase. Credir ei fod yn gweithio trwy niweidio DNA.
Hanes
golyguCymeradwywyd etoposide ar gyfer defnydd meddygol yn yr Unol Daleithiau ym 1983. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae'r gost gyfanwerthol yn y byd sy'n datblygu tua 3.24 i 5.18 $ UDA fesul ffiol 100 mg. Yn y Deyrnas Unedig, mae'n costio'r GIG tua £12.15 o 2015.
Defnydd meddygol
golyguFe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
golyguCaiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Etoposid, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pubchem. "Etoposid". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ Cancer Research UK Etoposide (Eposin, Etopophos, Vepesid) adalwyd 25 Ionawr 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |