Eusko Alkartasuna
Plaid genedlaethol Fasgaidd yw Eusko Alkartasuna (EA, "Undod Basgaidd"). Mae'n blaid sosial-ddemocrataidd anenwadol, sy'n anelu at annibyniaeth i Wlad y Basg. Ystyrir ei bod ar y chwith o'r blaid genedlaethol fwyaf, Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (PNV). Mae'n weithgar yn y rhannau Basgaidd o Sbaen a Ffrainc. Mae gan y blaid tua 6,000 o aelodau.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Basque political party ![]() |
Idioleg | democratiaeth gymdeithasol ![]() |
Rhan o | Euskal Herria Bildu, Euskal Herria Bai ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 4 Medi 1986 ![]() |
Aelod o'r canlynol | Cynghrair Rhydd Ewrop ![]() |
Pencadlys | Donostia ![]() |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc ![]() |
Gwefan | http://www.euskoalkartasuna.eus/ ![]() |
Ffurfiwyd y blaid yn 1986, gan gyn-aelodau o Blaid Genedlaethol Gwlad y Basg (PNV). Yn etholiad Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg y flwyddyn honno, enillodd dros 180,000 o bleidleisiau, 15.84% o'r cyfanswm. Yn Navarra, enillodd 7.1% o'r bleidlais. Ar hyn o bryd mae gan y blaid saith sedd yn senedd Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, lle mae'n ffurfio rhan o'r llywodraeth mewn clymblaid a'r PNV. Mae ganddi un aelod o Senedd Ewrop, lle mae'n rhan o'r grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop.
Adain ieuenctid Eusko Alkartasuna yw Gazte Abertzaleak.