Evan Evans (Gŵr busnes)
Gŵr busnes oedd Evan Evans (8 Tachwedd 1882 - 24 Gorffennaf 1965)[1]. Cafodd ei eni ym Metws Leucu, Ceredigion yn fab hynaf Elizabeth Evans. Pan oedd yn bymtheg oed, aeth i weithio yn siop laeth ei gefnder yn Marylebone, Llundain. Ei unig iaith oedd Cymraeg, felly aeth i wersi nos i ddysgu Saesneg.
Evan Evans | |
---|---|
Ganwyd | 8 Tachwedd 1882 Betws Leucu |
Bu farw | 24 Gorffennaf 1965 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person busnes |
Pan oedd yn ugain oed, roedd e’n berchen ar siop laeth ei hun, fferm, gwesty a busnes gwerthu ceir. Sefydlodd gwmni twristiaeth Evan Evans Tours Ltd yn 1933[2].
Yn 1933, rhoddodd hysbyseb ym mhapur newydd Cymry Llundain Y Ddolen i werthu tocynnau ar ei awyren ef o Lundain i Sioe Llangeitho.[3]
Priododd Nancy Meurig Davies yn 1936. Rhwng 1939 a 1941 roedd yr Henadur Evan Evans yn faer ar arldal St Pancras, Llundain.
Urddwyd ef i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964, a'i enw barddol oedd Ifan Gwynfil.
Bu farw yn 1965 ac fe’i gladdwyd yn mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "EVANS, EVAN (1882 - 1965), gŵr busnes | Y Bywgraffiadur Cymreig". Cyrchwyd 2024-01-15.
- ↑ "Evan Evans Tours". Evan Evans. Cyrchwyd 2024-01-15.
- ↑ "Capel Gwynfil, Llangeitho". Capel Gwynfil, Llangeitho. Cyrchwyd 2024-01-15.