Evan Lloyd

clerigwr ac awdur

Roedd Evan Lloyd (Gorffennaf, 173526 Ionawr 1776) yn offeiriad Eglwys Loegr ac yn fardd Cymreig yn yr iaith Saesneg.[1]

Evan Lloyd
Ganwyd15 Ebrill 1734 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 1776 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethclerig, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

 
Eglwys St Beuno, Llanycil

Roedd Lloyd yn fab i John Lloyd, bonheddwr, Bron-dderw, y Bala a Bridget Bevan ei wraig. Does dim sicrwydd ar ba ddyddiad cafodd ei eni ond fe'i bedyddiwyd ar 23 Gorffennaf 1735 yn Eglwys Blwyf Llanycil.[2] (Mae'r ODNB, yn dweud iddo gael ei fedyddio ar 15 Ebrill, 1734, ond brawd iddo bu farw, oedd hwnnw).[3][4]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Rhuthun a Choleg yr Iesu, Rhydychen lle raddiodd BA ym 1754 ac MA ym 1757.

Gyrfa golygu

Cafodd Lloyd ei ordeinio ym 1761 ac fe'i penodwyd yn Giwrad eglwys y Santes Mair Redriff (Rotherhithe), Llundain. Yn Llundain bu Lloyd yn mwynhau bywyd cymdeithasol y tai coffi a'r theatrau. Un o'i gysylltiadau ym myd y tai coffi oedd Henry Bilson Legge, cyn Ganghellor y Trysorlys. Ym 1763 defnyddiodd Legge ei ddylanwad i ddyrchafu Lloyd yn Ficer ar eglwys Llanfair Dyffryn Clwyd. Wnaeth Lloyd ddim symud yn ôl i Gymru i fugeilio ei braidd newydd. Cyflogodd ciwrad i gyflawni holl ddyletswyddau'r plwyf. Arhosodd Lloyd yn Llundain yn mwynhau ei fywyd cymdeithasol tra bod y degwm a ffioedd eraill yr eglwys yn cael eu danfon ato trwy law ei dad.

Bardd golygu

Cyhoeddodd Lloyd ambell i bwt o farddoniaeth mewn cylchgronau Llundain. Ym 1766 cyhoeddodd tair cerdd hir o farddoniaeth ddychanol:

  • The Powers of the Pen. Cerdd mewn cwpledi wyth sillaf sy'n cefnogi'r bardd a dychanwr Charles Churchill trwy ymosod ar ei feirniaid yr Archesgob William Warburton a'r Dr Samuel Johnson.
  • The Curate. Arwrgerdd am fywyd diflas yr holl guraduron yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys rhai llinellau arbennig o ddeifiol am hywerthedd esgobion.
  • The Methodist. Cerdd 1000 o linellau o hyd mewn cwpledi wyth sillaf sy'n mynegi casineb Lloyd tuag at y Methodistiaid.[5] Mae'r gerdd yn cyfeirio at gymeriad o'r enw "Libidinoso" (moes ar y gair Saesneg libidinous - chwantus, anniwair, anllad, cnawdol) sydd wedi selio ar gymydog pwerus Lloyd yn ardal y Bala, William Price, Rhiwlas.
And thus began th’ infernal Sprite—
"Libidinoso"! if I’m right!
Art thou that Son of mine on Earth,
Whose deeds so loud proclaim thy Birth?
Of whom so many Strumpets tell
Such Tales as get Thee Fame in Hell?
But Children know not whence they spring,
Whether by Beggar got, or King;

Daeth Price ag achos athrod yn erbyn Lloyd a chafodd ei garcharu am bythefnos yng ngharchar mainc y brenin a chafodd ddirwy o £50. Bu yn y carchar efo'r gwleidydd radical John Wilkes, a daeth y ddau yn gyfeillion oes wedi hynny. Bu hefyd yn gyfeillgar gyda'r actor David Garrick. Ceisiodd Wilkes a Garrick defnyddio eu dylanwad i geisio bywoliaethau (eglwysi) ychwanegol i Lloyd, ond roedd gan Price Rhiwlas mwy o ddylanwad dros yr Hybarch Jonathan Shipley Esgob Llanelwy, ac ofer bu pob ymgais.[3]

I ddiolch iddo am ei ymdrechion ar ei ran ysgrifennodd Lloyd gerdd o fawl i Garrick Epistle to David Garrick ym 1772 a chafodd ei ateb gan ddychangerdd gan William Kenrick A Whipping for the Welsh Parson.

Marwolaeth golygu

Bu Lloyd ar ymweliad i gartref y teulu yn y Bala ym 1776, gan dreulio ei amser yno yn yfed yn drwm. O ganlyniad i'r ddiota aeth yn sâl a bu farw, claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Price, C. J. L., (1953). LLOYD, EVAN (1734 - 1776), clerigwr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 13 Maw 2019
  2. Cofrestr Bedydd Plwyf Llanycil am y flwyddyn 1735 yng Ngofal Gwasanaethau Archifau Gwynedd / Dolgellau
  3. 3.0 3.1 Sambrook, J. (2004, September 23). Lloyd, Evan (1734–1776), poet. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 13 Mawrth 2019
  4. Cofrestr Claddu Plwyf Llanycil am y flwyddyn 1734 yng Ngofal Gwasanaethau Archifau Gwynedd / Dolgellau
  5. Copi ar lein o The Methodist gan Project Gutenburg adalwyd 13 Mawrth 2019
  6. R. Fenton, Tours in Wales, gol. J. Fisher (1917), tudalen 92