Samuel Johnson
Awdur a geiriadurwr Seisnig oedd Samuel Johnson, neu Dr Johnson (18 Medi 1709 – 13 Rhagfyr 1784).
Samuel Johnson | |
---|---|
![]() Portread Dr Johnson (tua 1772) gan Joshua Reynolds | |
Ganwyd |
18 Medi 1709 ![]() Caerlwytgoed ![]() |
Bu farw |
13 Rhagfyr 1784 ![]() Llundain ![]() |
Addysg |
Meistr yn y Celfyddydau ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
geiriadurwr, bardd, cyfieithydd, llyfrwerthwr ![]() |
Adnabyddus am |
A Dictionary of the English Language ![]() |
Tad |
Michael Johnson ![]() |
Mam |
Sarah Ford ![]() |
Priod |
Elizabeth Porter ![]() |
Llofnod |
HanesGolygu
Cafodd Johnson ei eni yn Lichfield, Swydd Stafford. Priododd Elizabeth "Tetty" Porter yn 1735. Roedd yn ffrind i Hester Thrale ac Anna Williams.
Gwaith llenyddolGolygu
Un o'i lyfrau enwocaf yw A Journey to the Western Islands of Scotland, sy'n cofnodi ei daith i Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd gyda'i gyfaill James Boswell, llenor o'r Alban a fyddai'n ysgrifennu bywgraffiad Johnson yn nes ymlaen. Yn ogystal â'i werth llenyddol, mae'r llyfr yn gofnod pwysig o fywyd yng ngogledd-orllewin yr Alban cyn 'Clirio'r Ucheldiroedd'.
Llyfryddiaeth ddetholGolygu
AmrywGolygu
- Dictionary of the English Language (1755)
- A Journey to the Western Islands of Scotland (1775)
- Lives of the Most Eminent English Poets (1779-1781)