Evelyn Sharp (ffeminist)
Ffeminist o Loegr oedd Evelyn Sharp (4 Awst 1869 - 17 Mehefin 1955) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, awdur plant a swffragét. Roedd yn aelod blaenllaw a milwriaethus o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched a'r grŵp a alwent eu hunain yn 'Etholfraint Unedig' (United Suffragists), a gyd-sefydlodd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn olygydd y cylchgrawn Votes for Women. Gwrthodai dalu treth ac fe'i carcharwyd ddwywaith.[1]
Evelyn Sharp | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1869 Llundain |
Bu farw | 17 Mehefin 1955 Ealing |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, awdur plant, swffragét, hunangofiannydd |
Priod | Henry Nevinson |
Fe'i ganed yn Llundain ar 4 Awst 1869, bu'n briod i Henry Nevinson a bu farw yn Ealing. [2][3][4][5]
Magwraeth
golyguGanwyd Evelyn Sharp, y nawfed o un-ar-ddeg o blant, ar 4 Awst 1869. Fe'i danfonwyd i ysgol breswyl am ddwy flynedd yn unig, ond llwyddodd i basio sawl arholiad yn y brifysgol. Yn 1894, yn erbyn dymuniadau ei theulu, symudodd Sharp i Lundain, lle ysgrifennodd a chyhoeddodd nifer o nofelau gan gynnwys All the Way to Fairyland (1898) a The Other Side of the Sun (1900).[6][7]
Yr awdur
golyguYn 1903 dechreuodd Sharp, gyda chymorth ei ffrind a'i chariad, Henry Nevinson, ysgrifennu ar gyfer y Daily Chronicle, y Pall Mall Gazette a phapur newydd y Manchester Guardian, a gyhoeddodd ei gwaith am dros ddeng mlynedd ar hugain.
Aeth Sharp ati i dynnu sylw at bwysigrwydd Nevinson a Chynghrair y Dynion ar gyfer Etholfraint Menywod (Men's League for Women's Suffrage), a mynnodd: "Mae'n amhosibl tanlinellu aberth Henry Nevinson, Laurence Housman, H. N. Brailsford, F. W. Pethick Lawrence, Harold Laski, Israel Zangwill, Gerald Gould, Gwnaeth George Lansbury, a llawer o rai eraill, i gadw ein mudiad yn rhydd o unrhyw awgrym mai rhyfel rhwng y ddau ryw ydyw."[8]
Yr ymgyrchydd
golyguWedi iddi ymuno â'r UGCC, pryderai Jane, sef mam Evelyn, amdani; gwaneth iddi addo na fyddai'n gwneud unrhyw beth a fyddai'n arwain at ei charcharu. Er iddi ysgrifennu yn Votes for Women am Elsie Howey, wedi ei gwisgo fel Joan of Arc, merch ar geffyl gwyn yn arwain gorymdaith o gannoedd o swffragetiaid i gyfarfod yn Theatr Aldwych ar 17 Ebrill 1909, cadwodd Sharp ei haddewid am bum mlynedd, nes i'w mam ddiddymu'r addewid honno yn Nhachwedd 1911.[9]
Aeth Evelyn ati ar unwaith i weithredu, a daeth yn rhan o ymgyrch filwriaethus; yn ddiweddarach y mis hwnnw cafodd ei charcharu am un-deg-pedwar diwrnod.
Roedd Sharp yn aelod gweithgar o'r Women Writers' Suffrage League. Yn Awst 1913, mewn ymateb i dacteg y llywodraeth o gadw carcharorion a fyddai'n ymprydio, nes eu bod yn rhy wan i ddal ati, trwy "Ddeddf y Gath a'r Llygoden" arestiwyd Sharp. Cafodd Sharp ei ddewis i gynrychioli'r WWSL mewn dirprwyaeth i gwrdd â'r Ysgrifennydd Cartref, Reginald McKenna i drafod y Ddeddf hon. Roedd McKenna yn amharod i siarad â nhw a phan wrthododd y merched adael Tŷ'r Cyffredin, cafodd Mary Macarthur a Margaret McMillan eu lluchio o'r fan a'r lle, a chafodd Sharp ac Emmeline Pethick-Lawrence eu harestio a'u hanfon i Garchar Holloway.[6]
Y Rhyfel Byd Cyntaf
golyguYn wahanol i'r rhan fwyaf o aelodau mudiad y merched, roedd Sharp yn amharod i ddod a'r ymgyrch dros bleidlais i ben, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan barhaodd i wrthod talu ei threth incwm cafodd ei harestio ac atafaelwyd ei holl eiddo, gan gynnwys ei theipiadur. Fel heddychwraig, roedd Sharp hefyd yn weithgar yng Nghynghrair Rhyngwladol y Merched dros Heddwch yn ystod y rhyfel.
Dyfyniad
golygu“ |
Reforms can always wait a little longer, but freedom, directly you discover you haven't got it, will not wait another minute.[8] |
” |
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "'Behind the locked door': Evelyn Sharp, suffragette and rebel journalist", Angela V. John, Women's History Review, Cyfrol 12, Rhif 1, March 2003, tt. 5–13
- ↑ Cyffredinol: https://en.wikipedia.org/wiki/Evelyn_Sharp_(suffragist).
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Evelyn Sharp (suffragist)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Evelyn Sharp". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Evelyn Sharp (Nevinson)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Evelyn Sharp". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Evelyn Sharp (Nevinson)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 6.0 6.1 "The Spartacus Educational article". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-24. Cyrchwyd 2019-06-01.
- ↑ Adolygiad o Evelyn Sharp: Rebel Woman, 1869–1955 by Angela V. John and Unfinished Adventure by Evelyn Sharp, A. S. Byatt
- ↑ 8.0 8.1 Evelyn Sharp, Unfinished Adventure, 1933
- ↑ Atkinson, Diane (2018). Rise up, women! : the remarkable lives of the suffragettes. London: Bloomsbury. tt. 143, 313, 453, 559. ISBN 9781408844045. OCLC 1016848621.