Treth incwm
Treth Incwm yw'r hyn a elwir trethi sy'n seiliedig ar faint o arian mae person yn ei ennill. Mae llawer o fathau eraill o drethi ar fusnesau ac eiddo. Mae treth incwm yn erfyn gan lywodraeth i nid yn unig godi incwm ond hefyd i lunio polisi i hybu gwahanol weithgaredd economaidd.[1]
Enghraifft o'r canlynol | math o dreth |
---|---|
Math | treth uniongyrchol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan y rhan fwyaf o wledydd ryw fath o dreth incwm, a fel rheol, dim ond pobl sy'n byw yn y wlad sy'n gorfod talu. Mae'r ffordd y caiff ei wneud yn amrywio'n fawr rhwng gwledydd a thros amser. Dim ond mewn economi arian y gall treth incwm weithio, gyda chyfrifon gweddol gywir ac mewn cymdeithas drefnus gyda chofnodion dibynadwy. Yn gyffredinol, cyfrifir treth incwm fel canran o incwm person. Gall fod swm o incwm nad yw'n cael ei drethu. Gall y gyfradd fod yn uwch ar gyfer pobl sydd ag incwm uwchlaw swm penodol. Fel arfer caiff ei gyfrifo fesul blwyddyn gyda'r trothwy fel canran o incwm person yn aros yn gymharol gyson ond yr union arian a delir yn amrywio yn ôl chwyddiant.
I bobl sy'n gyflogedig, yn aml bydd y dreth incwm yn cael ei thynnu o'u cyflog gan eu cyflogwr, sy'n ei thalu i'r llywodraeth. Mae'n rhaid i bobl sy'n rhedeg eu busnes eu hunain gynhyrchu cyfrifon.
Hanes
golyguDechreuwyd y dreth incwm fodern gyntaf yn 1799[2] ym Mhrydain Fawr gan y Prif Weinidog William Pitt yr Ieuengaf yn ei gyllideb yn Rhagfyr 1798, i dalu am arfau ac offer ar gyfer y Rhyfel yn erbyn Ffrainc wedi'r Chwyldro. Dechreuodd treth incwm Pitt ar 2 hen geiniog yn y bunt (1⁄120) ar incwm dros £60 (gwerth tua £5,500 yn 2019), hyd at 2 swllt yn y bunt (10%) ar incwm o dros £200. Roedd Pitt yn gobeithio y byddai'r dreth incwm newydd yn codi £10 miliwn y flwyddyn, ond yn 1799 dim ond ychydig dros £6 miliwn a gododd.[3]
Ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf i 'Dreth incwm" neu "dreth yr incwm" yn y Gymraeg yn 1864.[4]
Gweithredu
golyguMae treth incwm yn rhan bwysig o'r system dreth oherwydd ei bod yn cysylltu cynilion â buddsoddiad, ac mae ganddi ôl-effeithiau ar gymhellion mewn marchnadoedd llafur ac entrepreneuriaeth.[5]
Mathau o drethi incwm:
- Treth Gynyddol:[6] Pan fydd y ganran a gymhwysir i incwm person yn cynyddu gyda'r incwm hwnnw. Fodd bynnag, mae yna ddadlau oherwydd nad yw cyflogau o reidrwydd yn cyfateb ag incwm unigolyn.
- Treth Wastad (fflat): Pan fydd y ganran a gymhwysir i incwm person yn gyson.
- Treth Atchwel:[7] Pan fydd y ganran a gymhwysir i incwm person yn gostwng gyda'r incwm hwnnw.
Pan godir treth incwm ar gwmni, fe'i gelwir yn aml yn dreth gorfforaethol neu dreth elw. Mae trethi corfforaethol fel arfer yn trethu elw cwmni (y gwahaniaeth rhwng refeniw a threuliau, gyda rhai didyniadau), tra bod trethi personol fel arfer yn trethu incwm (gyda rhai didyniadau).
Amrywiaeth
golyguO ran trethi incwm ar gorfforaethau, mae bron pob gwlad yn eu hasesu, ond mae'r darpariaethau a'r cyfraddau yn amrywio'n fawr. Gan fod gan wledydd diwydiannol yn gyffredinol sectorau corfforaethol mwy na gwledydd llai datblygedig, mae trethi incwm corfforaeth mewn gwledydd datblygedig yn tueddu i fod yn uwch mewn perthynas ag incwm cenedlaethol a chyfanswm refeniw'r llywodraeth - ac eithrio mewn ardaloedd cynhyrchu mwynau mawr mewn gwledydd llai datblygedig.[8]
Treth Incwm yng Nghymru
golyguRhoddodd Deddf Cymru 2014 bŵer llawn i Senedd Cymru bennu’r cyfraddau (ac eithrio’r lwfans personol) a dalwyd gan drethdalwyr Cymreig ar incwm nad oedd yn gynilion na difidendau o 6 Ebrill 2017. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl refeniw treth incwm a gynhyrchir o incwm nad yw’n gynilion na difidendau o dan bolisi treth incwm Cymru.[9]
Bu trafodaeth am rai blynyddoedd o ddechrau'r 21g dros ddatganoli trethi, gan gynnwys cyfran o rheolaeth o'r Dreth Incwm i Gymru. Bron i ddegawd ar ôl codi'r mater am y tro cyntaf, dechreuodd Llywodraeth Cymru dderbyn ei chyfran o'r tua £2 biliwn o Dreth Incwm a dalwyd gan drethdalwyr yng Nghymru. Codwyd cwestiynau a fyddai bod yn gyfrifol am elfen o reoli'r Dreth Incwm yn gallu bod yn andwyol i gyllideb Cymru.[10]
Ers 6 Ebrill 2019, bu pobl sydd â’u prif fan preswylio yng Nghymru, ac sy'n talu treth incwm, yn talu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (llythrenw Saesneg: WRIT, Welsh Rates of Income Tax). Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn cynrychioli cyfran o'r dreth incwm a delir gan drethdalwyr Cymru. Mae’r gyfran hon yn cael ei throsglwyddo’n syth i Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r trefniant hwn yn cael ei weinyddu gan sefydliad Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.[11]
Mae’r cyfraddau hyn wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru ond telir yr un dreth â gweddill y DU ar ddifidendau a llog ar gynilion.[12]
Ym mis Chwefror 2023 cyflwynodd Plaid Cymru gynnig ger bron Senedd Cymru i "feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei hun" i Gymru ar sail yr hyn sy'n bodoli yn yr Alban.[13] Methodd y cynnig.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Income Tax ar wefan Britannica
- Cyllid Llywodraeth Cymru tudalen ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys dolenni i Dreth Incwm Cymru
- Tudalen Treth Incwm Cymru gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Which Taxes are Best and Worst for Growth". National Institute of Economic and Social Research. 30 Mai 2024.
- ↑ Harris, Peter (2006). Income tax in common law jurisdictions: from the origins to 1820, Volume 1. t. 1. ISBN 9780521870832.
- ↑ "A tax to beat Napoleon". HM Revenue & Customs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 24, 2010. Cyrchwyd January 24, 2007.
- ↑ "Treth". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
- ↑ Barreix, Alberto. "Impuesto a la renta personal en América Latina y el Caribe: 4 problemas y 3 posibles soluciones".[dolen farw]
- ↑ "Progressive tax". Termau.Cymru. Cyrchwyd 9 Hydref 2024.
- ↑ "Regressive tax". Termau.Cymru. Cyrchwyd 9 Hydref 2024.
- ↑ "Income tax". Britannica. Cyrchwyd 9 Hydref 2024.
- ↑ Gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru 2022-23, Gwefan Cyllid a Thollau EF, 19 Ionawr 2024, https://www.nao.org.uk/wp-content/uploads/2024/01/gweinyddu-cyfraddau-treth-incwm-cymru-2022-23-crynodeb.pdf
- ↑ "Treth Incwm a Chymru". Prifysgol Caerdydd. 24 Chwefror 2016. Cyrchwyd 9 Hydref 2024.
- ↑ "Cyfraddau Treth Incwm Cymru". Gwefan Senedd Cymru. 3 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 9 Hydref 2024.
- ↑ "Treth Incwm Cymru". Gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cyrchwyd 9 Hydref 2024.
- ↑ "NDM8199 Dadl Plaid Cymru - Datganoli treth incwm". Senedd Cymru. 8 Chwefror 2023.