Difodiant

(Ailgyfeiriad o Extinct)

Difodiant yw diwedd bywyd organeb byw, grwp o organebau byw (tacson) neu rywogaeth, fel arfer. Gellir diffinio difodiant o ran amser fel y foment honno pan fo aelod ola'r rhywogaeth yn marw. Defnyddir y term gan mwyaf o fewn daeareg, bywydeg ac ecoleg. Ar adegau, ceir hyd i rywogaeth a gredwyd oedd wedi difodi; mae'n ailymddangos, yn dal yn fyw a gelwir hon yn rhywogaeth Lasarus, oherwydd i Lasarus, yn ôl y chwedl atgyfodi.

Difodiant
Mathdiwedd, risg biolegol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebrhywogaethu Edit this on Wikidata
Rhan odiraddio'r amgylchedd, colli bioamrywiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cred gwyddonwyr fod dros 99% o'r holl rywogaethau sydd erioed wedi byw ar wyneb Daear wedi difodi; mae hyn yn gyfystyr â phum biliwn o rywogaethau.[1][2][3] Mewn cymhariaeth, amcangyfrifir fod rhwng 10 miliwn a 14 miliwn o rywogaethau'n fyw heddiw, gyda dim ond 1.2 miliwn ohonynt wedi eu cofnodi.[4]

Gellir dweud i raddau fod difodiant yn broses cwbwl naturiol o ran esblygiad. Y ddau reswm mwyaf dros ddifodiant yw: yn gyntaf, amgylchiadau sy'n newid yn sydyn e.e. daeargrynfeydd ysgytwol neu newid tymheredd ac yn ail cystadleuaeth gan rywogaeth arall.[5] Ar gyfartaledd mae rhywogaeth yn difodi wedi 10 miliwn o fodolaeth, er bod yr hyn a elwir yn 'ffosiliau byw' yn parhau am gannoedd o filiynau rhagor o fodolaeth, heb fawr o newid esblygol, morffolegol.[3]

Statws cadwraeth golygu

Statws cadwraeth unrhyw rywogaeth yw'r tebygrwydd y gallai'r rhywogaeth honno wynebu difodiant. Y mwyaf adnabyddus o'r rhestri statws cadwraeth yw Rhestr Goch yr IUCN.

Mae categoriau'r IUCN yn cynnwys:

  • Wedi ei ddifodi: dim unigolion o'r rhywogaeth ar ôl, er enghraifft y Dodo.
  • Wedi ei ddifodi yn y gwyllt: rhai unigolion ar ôl, ond dim poblogaeth naturiol yn y gwyllt.
  • Mewn perygl difrifol: siawns uchel iawn o ddifodiant yn y dyfodol agos, er enghraifft Rheinoseros Jafa.
  • Mewn perygl: siawns uchel o ddifodiant yn y dyfodol, er enghraifft y Morfil Glas, Teigr, Albatros
  • Archolladwy: siawns uchel o ddifodiant yn y tymor hir, er enghraifft y Llew, Gaur.
  • Dibynnu ar gadwraeth: er nad oes bygythiad ar hyn o bryd, mae'n ddibynnol ar raglenni cadwraeth, er enghraifft Caiman Du
  • Bron dan fygythiad: gall ddod dan fygythiad yn y dyfodol agos.
  • Dim bygythiad: dim bygythiad ar hyn o bryd.

Statws IUCN 3.1 golygu

   

Categoriau Risg Lleiaf
2001 Categoriau a Meini Prawf
(fersiwn 3.1)
Disgrifiad
  Pryder Lleiaf (LC), risg lleiaf. Ceir llawer o rywogaethau ledled y byd yn y categori hwn.
  Bron dan fygythiad (NT), yn agos i gael eu rhoi mewn categori o fygythiad, neu posib y bydd y rhywogaeth o dan fygythiad ynb y dyfodol agos.
Categoriau o fygythiad
2001 Categoriau a Meini Prawf
(version 3.1)
Disgrifiad
  Archolladwy (VU), siawns uchel o ddifodiant yn y tymor hir, yn y gwyllt.
  Mewn perygl (EN), siawns uchel o ddifodiant yn y dyfodol.
  Mewn perygl difrifol (CR), siawns uchel iawn o ddifodiant yn y dyfodol agos.
Categoriau eraill
2001 Categoriau a Meini Prawf
(version 3.1)
Disgrifiad
  Wedi ei ddifodi yn y gwyllt (EW), rhai unigolion ar ôl, ond dim poblogaeth naturiol yn y gwyllt.
  Diffyg Data (DD), diffyg data'n bodoli i wneud asesiad risg o ddifodiant.
  Heb ei Werthuso (NE), heb ei werthuso yn erbyn y meini prawf.
  Wedi'i ddifodi, o bosibl (EX neu CR), crewyd y categori hwn gan BirdLife International.
  O bosib wedi'i ddifodi yn y gwyllt (EW neu CR), Term a ddefnyddir oddi fewn i'r Rhestr Goch.
  Difodwyd (EX), does dim dwywaith amdani - mae unigolyn olaf y rhywogaeth wedi marw.

Galeri o faneri Statws IUCN 3.1 golygu

(Hen gofrestriadau)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Stearns, Beverly Peterson; Stearns, S. C.; Stearns, Stephen C. (2000). Watching, from the Edge of Extinction. Yale University Press. t. 1921. ISBN 978-0-300-08469-6. Cyrchwyd 2014-12-27.
  2. Novacek, Michael J. (8 Tachwedd 2014). "Prehistory's Brilliant Future". New York Times. Cyrchwyd 2014-12-25.
  3. 3.0 3.1 Newman, Mark (1997). "A model of mass extinction". Journal of Theoretical Biology 189: 235–252. doi:10.1006/jtbi.1997.0508. http://arxiv.org/abs/adap-org/9702003.
  4. G. Miller; Scott Spoolman (2012). Environmental Science – Biodiversity Is a Crucial Part of the Earth's Natural Capital. Cengage Learning. t. 62. ISBN 1-133-70787-4. Cyrchwyd 2014-12-27.
  5. Sahney, S., Benton, M.J. and Ferry, P.A. (2010). "Links between global taxonomic diversity, ecological diversity and the expansion of vertebrates on land" (PDF). Biology Letters 6 (4): 544–547. doi:10.1098/rsbl.2009.1024. PMC 2936204. PMID 20106856. http://rsbl.royalsocietypublishing.org/content/6/4/544.full.pdf+html.