Amaeth yn y Traeth Ifori
Prif gynhalydd y Traeth Ifori ydy amaethyddiaeth, ac mae uwch nag hanner o holl lafurlu y wlad yn gweithio yn y sector hwn. Mae'n cyfri am ryw draean o gynnyrch mewnwladol crynswth, ac yn brif ffynhonnell incwm ar gyfer dau o bob tri o gartrefi'r wlad.[1] Er bod yr economi yn dibynnu'n gryf ar amaeth, mae ffermio yn ddwys ac yn hynod o amrywiaethol o gymharu â gwledydd datblygol eraill, ac felly nid yw'r Traeth Ifori yn dioddef o'r un or-ddibyniaeth ar gynwyddau sy'n gyffredin i nifer o wledydd Affrica. Coco a choffi oedd y ddau gynnyrch blaenaf yn yr 20g, ac yn sgil annibyniaeth ym 1960 daeth nifer o gnydau eraill yn bwysig gan gynnwys pîn-afalau, bananas, cnau coco, cola, olew palmwydd, cnau cashiw, cotwm, siwgr, a rwber. Mae cnydau ymgynhaliol megis iamau, casafa, miled, plantanau, reis, ac indrawn yn cyflenwi anghenion y boblogaeth wledig. Wrth i'r boblogaeth drefoli, a mwy o weithwyr ar draws y wlad troi at lafurio am dâl yn hytrach nag hunangynhaliaeth, mae'r galw am fwydydd eraill wedi cynyddu. Mae poblogrwydd bara a chwrw hefyd wedi cynyddu'r galw am fewnforion gwenith.[2]
Math o gyfrwng | amaeth yn ôl gwlad neu ranbarth |
---|---|
Math | agriculture of the Earth |
Gwladwriaeth | Y Traeth Ifori |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Wedi i'r Traeth Ifori ennill ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1960, aeth yr Arlywydd Félix Houphouët-Boigny ati i roi polisïau rhydd-fenter ar waith, gan ryddfrydoli'r economi a datblygu amaethyddiaeth y wlad. Byddai'r pwyslais hwn ar gnydau gwerthu yn wahanol i nifer o wledydd newydd-annibynnol eraill Affrica, a geisiodd ddiwydiannu dan reolaeth y wladwriaeth. Byddai uwch na chwarter o'r boblogaeth yn ymwneud â ffa coco, y prif allforyn ers y cyfnod trefedigaethol, ac erbyn diwedd y 1980au enillodd y Traeth Ifori y blaen ar Ghana fel prif allforiwr coco'r byd.[2] Y prif gnwd arall oedd ffa coffi, ac er i werth yr hwnnw ostwng mae ffermio coffi yn parhau'n fenter gyffredin i deuluoedd yn ne-ddwyrain y wlad. Plannwyd palmwydd coco mewn miloedd o erwau ar hyd yr arfordir, i gynhyrchu copra ar gyfer olew yn ogystal â chynaeafu'r ffrwyth. Dan arweiniad Houphoutë-Boigny, daeth y Traeth Ifori hefyd yn un o brif allforwyr pîn-afalau ac olew palmwydd, a chyfrannai amaeth at y ffyniant economaidd—"y gwyrth Iforaidd"—a'i gwnaeth yn un o wledydd cyfoethocaf Affrica yn ail hanner yr 20g.
Mae'r pridd a'r hinsawdd yn ne-orllewin y Traeth Ifori yn dda i dyfu palmwydd olew a choed rwber. Yn nechrau'r 1960au cyflwynwyd rhywogaeth o goeden rwber hefea o Dde America, a anogodd y llywodraeth ffermio coed palmwydd i gynhyrchu olew. Datblygwyd y diwydiant cotwm yn y gogledd drwy blannu cyltifarau gyda chynaeafau cynhyrchiol, ac arferid cylchdroi cnydau cotwm gyda reis ac iam. Caiff coedwigoedd eu clirio er mwyn tyfu gwreiddlysiau a bananas, yn ogystal â choed masnachol megis rwber a'r prif gnydau, coffi a choco. Tyfir reis a chnydau grawn eraill ar dir y safana, a chotwm a chansen siwgr yn y ddau fath o brif.
Mae rhywfaint o ffermio da byw, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, ond caiff anghenion cenedlaethol am gig eu cyflenwi gan fewnforion o Fali a Bwrcina Ffaso.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyril K. Daddieh, Historical Dictionary of Côte d'Ivoire (The Ivory Coast), 3ydd argraffiad (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2016), tt. 61–64.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Côte d'Ivoire. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Chwefror 2024.