Faisal I, brenin Irac
Brenin Teyrnas Irac o 1921 hyd 1933 a Brenin Teyrnas Arabaidd Syria am gyfnod byr ym 1920 oedd Faisal bin Hussein bin Ali al-Hashemi (Arabeg: فيصل بن حسين بن علي الهاشمي, Fayṣal ibn Ḥusayn; 20 Mai 1885 – 8 Medi 1933), oedd yn aelod o'r frenhinllin Hasimaidd. Roedd Faisal yn un o feibion Hussein bin Ali, Sharif Mecca, ac yn arweinydd yn y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid. Anogodd pan-Arabiaeth ymysg llwythau'r Arabiaid a'r enwadau Sunni a Shia, gan obeithio ennill gwladwriaeth Arabaidd oedd yn cynnwys Mesopotamia, Syria Fawr a gweddill y Cilgant Ffrwythlon.
Faisal I, brenin Irac | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
20 Mai 1883 ![]() Ta'if ![]() |
Bu farw |
7 Medi 1933, 8 Medi 1933 ![]() Achos: methiant y galon ![]() Bern ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Ymerodraeth Otomanaidd, Arab Kingdom of Syria, Kingdom of Iraq ![]() |
Galwedigaeth |
gwleidydd, person milwrol ![]() |
Swydd |
teyrn ![]() |
Tad |
Hussein bin Ali ![]() |
Priod |
Huzaima bint Nasser ![]() |
Plant |
Ghazi of Iraq ![]() |
Llinach |
Hashimiaid ![]() |
Gwobr/au |
Urdd yr Hashimites, Urdd Al Rafidain, Cadwen Frenhinol Victoria, Supreme Order of the Renaissance, Order of Pahlavi, Nishan Mohamed Ali, Grand Cordon of the Order of Leopold, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Knight grand cross of the order of the crown of Italy ![]() |