Sjælland
Sjælland (Almaeneg: Seeland, Saesneg: Zealand) neu Seland yw ynys fwyaf Denmarc. Gydag arwynebedd o 7.031 km², hi yw'r ynys fwyaf yn y Môr Baltig. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 2,115,317. Ystyr wreiddiol yr enw oedd "lle'r morloi".
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,302,074 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Denmarc ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,031.3 km² ![]() |
Gerllaw | Y Môr Baltig ![]() |
Cyfesurynnau | 55.57°N 11.89°E ![]() |
Hyd | 132 cilometr ![]() |
![]() | |
Ar Sjælland y mae prifddinas Denmarc, Copenhagen, a hen brifddinas y wlad, Roskilde. Mae pontydd yn ei chysylltu a thir mawr Denmarc, ac ers 2000 mae Pont Öresund yn ei chysylltu a thalaith Schonen yn Sweden.
