Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen
Hanesydd, hynafieithydd Cymreig a llenor yn yr iaith Saesneg oedd Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen (1845 – 25 Tachwedd 1927). Hi oedd unig ferch John Ralph Ormsby-Gore, Barwn 1af Harlech a Sarah Tyrell (1816 - 1876).[1]
Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1845 Sir y Fflint |
Bu farw | 25 Tachwedd 1927 Amwythig |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, hanesydd |
Tad | John Ralph Ormsby-Gore |
Mam | Sarah Tyrell |
Priod | Lloyd Kenyon, Thomas Mainwaring Bulkeley-Owen |
Plant | Lloyd Tyrell-Kenyon |
Priododd yr Anrhydeddus Lloyd Kenyon (m. 1865) yn gyntaf yn 1863 a chawsant fab o'r enw Lloyd Tyrell-Kenyon (5 Gorffennaf 1864 - 30 Tachwedd 1927) a ddaeth yn 4ydd barwn Kenyon, gan ddilyn ei daid yn y farwniaeth. Priododd Fanny eilwaith yn 1880 gyda'r Parch. Thomas Mainwaring Bulkeley-Owen o Tedsmore, West Felton (m. 1910).[2]
Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn ei theulu, yr ardal ac mewn mudiadau Cymreig, yn enwedig rhai diwylliannol a'i henw barddol oedd "Gwenrhian Gwynedd". Yn 1927 cyhoeddodd lyfr ar hanes plwyf Selatyn a oedd yn cynnwys Brogyntyn sef cartref ei thad. Ysgrifennodd hefyd femorandwm manwl i'r Comisiwn Tir yn 1894, sef hanes y Maelor Saesneg. Bu farw yn yr Amwythig ar 25 Tachwedd 1927.
Priododd ei mab Lloyd ferch o'r enw Gwladys Julia Howard.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.geni.com; adalwyd Mawrth 2016
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 26 Mawrth 2016