Mae Farsa (Eidaleg, yn llythrennol: ffars,[1] lluosog: farse) yn enre opera, sy'n gysylltiedig â Fenis ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Weithiau fe'i gelwir hefyd yn farsetta.

Fel rheol roedd farse yn operâu un act, weithiai'n cael eu perfformio ynghyd â baletau byr. Bu llawer o'r cynyrchiadau a gofnodwyd yn y Teatro San Moisè yn Fenis, yn aml yn ystod y Carnifal. Yn gerddorol efallai eu bod wedi deillio o'r dramâu dwy act giocoso, er bod dylanwadau eraill, gan gynnwys y comédie mêlée d'ariettes Ffrengig.

Ychydig o'r farse gwreiddiol o'r 18g sy'n cael eu perfformio bellach. Ysgrifennodd y cyfansoddwr Almaenig Johann Simon Mayr, a oedd yn byw yng Ngogledd yr Eidal, tua 30 farse. Ysgrifennodd Rossini bum enghraifft: La cambiale di matrimonio (1810), L'inganno felice (1812), La scala di seta (1812), Il Signor Bruschino (1813), ac Adina (1818). Yn ogystal, mae ei L'occasione fa il ladro(1812), er ei fod yn cael ei alw'n Burletta per musica, yn farse ym mhob dim ond enw.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Farsa - OperaFolio.com". www.operafolio.com. Cyrchwyd 2020-09-23.
  2. Farsa gan David Bryant, yn 'The New Grove Dictionary of Opera', Gol. Stanley Sadie (Llundain, 1992) ISBN 0-333-73432-7