La cambiale di matrimonio

Mae La cambiale di matrimonio (Y cytundeb Priodas) yn farsa comica operatig un act gan Gioachino Rossini i libreto gan Gaetano Rossi. Seiliwyd y libreto ar ddrama gan Camillo Federici (1791) a libreto blaenorol gan Giuseppe Checcherini ar gyfer opera 1807 gan Carlo Coccia, Il matrimonio per lettera di cambio. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf ar 3 Tachwedd 1810 yn y Teatro San Moisè yn Fenis.[1] Cafodd rediad o dri ar ddeg o berfformiadau yn Teatro San Moisè.[2]

La cambiale di matrimonio
Luigi Raffanelli, creawdwr rol Syr Tobia Mill
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
Genreopera Edit this on Wikidata
CymeriadauTobia Mill, Fanni, Edoardo Milfort, Slook, Norton, Clarina Edit this on Wikidata
LibretyddGaetano Rossi Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTeatro San Moisè Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af3 Tachwedd 1810 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGioachino Rossini Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Wedi'i chyfansoddi mewn ychydig ddyddiau pan oedd Rossini yn 18 oed, La cambiale di matrimonio oedd ei opera broffesiynol gyntaf. Mae'r agorawd, a ysgrifennwyd pan oedd yn fyfyriwr yn y Liceo Musicale yn Bologna, yn rhan bwysig o'r repertoire cyngerdd modern.[1] Fel bu'n nodweddiadol o'i yrfa ddiweddarach, ailddefnyddiodd y ddeuawd "Dunque io son" yn ddiweddarach, yn fwy effeithiol, yn act 1 o Farbwr Sevilla.[3]

Rôl Llais Cast Cyntaf, 3 Tachwedd 1810[4]
(Conductor: )
Tobia Mill, masnachwr o Loegr bariton Luigi Raffanelli
Fanni, ei ferch soprano Rosa Morandi
Edoardo Milfort, cariad Fanni tenor Tommaso Ricci
Slook, masnachwr o Ganada bariton Nicola De Grecis
Norton, Clerc Mill bas Domenico Remolini
Clarina, morwyn Fanni mezzo-soprano Clementina Lanari

Crynodeb

golygu

Lle: Llundain, Swyddfa Syr Tobia Mill

Cyfnod:18fed Ganrif

Mae'r opera'n agor gyda golygfa o'r gweision, Norton a Clarina, yn trafod llythyr sydd wedi cyrraedd i'w meistr, Syr Tobia Mill. Mae'r llythyr yn sôn am gytundeb sydd ar ddod gan ddyn busnes o Ganada, Slook, sydd i fod i gyrraedd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Mae Slook y gŵr o Ganada, wedi methu cael hyd i wraig addas yn ei wlad ei hun ac am geisio gwraig o Loegr. Mae wedi paratoi cytundeb o gyfnewid y byddai'n priodi merch y sawl sy'n cyflwyno'r cytundeb yn ôl iddo ar gyfer ei thalu.

Mae Mill yn dod i mewn, gyda map a chwmpawd. Mae'n trio gweithio allan y pellter o Ganada i Lundain ac yn cael ei ddrysu gan yr ymarfer. Mae gan Norton lythyr iddo. Mae Mill wedi ei gythruddo gan yr ymyrraeth â'i ymdrechion.

Mae Mill yn darllen y llythyr. Mae'n dweud bod Slook eisoes yn Llundain ac mae'n barod i ddelio â'u busnes ac archwilio'r nwyddau. Mae manyleb y busnes yn nodi nad yw Slook yn poeni am dderbyn gwaddol cyn belled a bod y fenyw yn onest, yn iau na ddeg ar hugain, o natur bêr, o bryd teg a heb y staen lleiaf ar ei henw da. Rhaid iddi fod yn iach a chadarn, yn gallu ymdopi â theithio ar y môr ac â hinsawdd ei wlad frodorol. Os bydd y nwyddau'n cyrraedd mewn cyflwr da, fel y nodwyd, bydd y fargen yn cael ei chadarnhau'n briodol.

Wedi plesio efo'r syniad o beidio gorfod talu gwaddol am briodas ei ferch, mae Mill yn penderfynu cynnig Fanni fel y nwyddau bydd yn cyflenwi manyleb Slook.

Mae'n gorchymyn i'r aelwyd baratoi ar gyfer dyfodiad Slook, gan gynnwys paratoi ei ferch, Fanni, i gyfarfod a'r dyn diarth.

Mae Fanni yn cyrraedd gyda'i chariad, Edoardo Milfort ar ôl i bawb arall ymadael. Mae cariad y ddau wedi cael ei gadw'n gyfrinach rhag Mill oherwydd sefyllfa ariannol wael Edoardo. Mae Norton yn cyrraedd i hysbysu'r cariadon am y contract priodas sydd ar ddod ond mae mynediad Mill yn tarfu ar eu sgwrs. Mae cerbyd yn cyrraedd yn cario'r Canadiad.

Mae Mill yn annog Slook i siarad â Fanni ac i ddod i'w hadnabod, ac yn gadael y ddau efo'i gilydd er mwyn i Slook archwilio'i nwyddau. Mae Slook wedi ei blesio efo'i nwyddau ond mae Fanni yn dangos nad yw hi'n fodlon efo'i rhan hi yn y fargen. Mae Slook yn addo popeth i Fanni, ond mae hi’n parhau i’w sicrhau na fydd hi byth yn eiddo iddo, hyd ei fod yn blino efo hi'n ateb ‘ond’, i bob cwestiwn.

Mae Edoardo yn cyrraedd yn gandryll. Mae'n orchymyn Slook i ymadael. Mae Fanni yn bygwth y bydd hi'n crafu llygaid Slook allan ac y bydd Edoardo yn ei drywanu os nad yw'n ymadael. Wedi synnu gan ymateb bygythiol yr eneth addfwyn a'i chyfaill sydd i'w gweld yn ddyn ifanc annwyl mae Slook yn ymadael. Wrth iddo fynd mae Norton yn ei weld ag yn ei rybuddio rhag caffael nwyddau a all bod dan forgais i un arall.

Mae Mill yn dychwelyd ac yn gofyn i Slook os oedd o'n fodlon a'r nwyddau. Mae Slook yn ateb yn gadarnhaol, mae Mill wrth ei fodd hyd iddo glywed bod Slook, er hynny, dim eisiau Fanni. Gan boeni am ei lygaid a'i gwaed, wedi bygythiadau'r cariadon mae'n gwrthod rhoi rheswm. Gan fod torri cytundeb rhwng dau fonheddwr, heb reswm digonol, yn fater o sarhad mae Mill yn taflu ei faneg i'r llawr fel sialens i ymladd gornest arfog. Fel dyn o ben draw'r byd dydy Slook ddim yn deall arwyddocâd y symbol am ymladd ornest. Mae'n penderfynu dychwelyd adref.

Cyn dychwelyd mae Slook yn gofyn i Fanni ac Edoardo am ychydig o'u hamser, mewn hedd, i egluro be oedd wedi digwydd. Mae o'n gofyn i Fanni os yw hi eisoes yn eiddo i un arall. Mae'r ffordd mae hi'n edrych ar Edoardo yn rhoi'r ateb iddo. Mae Edoardo yn egluro bod y bwlch rhwng ei sefyllfa ariannol ef a Mill yn creu anhawster mawr. Mae Slook wedi ffieiddio at ymddygiad y tad a, gan egluro ei fod yn ddyn cyfoethog, yn cyflwyno'r cytundeb cyfnewid i Edoardo ar yr amod ei fod ef a'i ddisgynyddion yn dod yn etifedd iddo.

Mae Mill yn dod i mewn gyda phistolau a chleddyfau er mwyn ymladd yr ornest gyda Slook. Mae Slook yn codi ei getyn yn hytrach nag arf gan egluro nad oes le i ornest gan fod amodau'r cytundeb wedi eu llawn gyflawni. Roedd merch Mill’s eisoes wedi ei morgeisio ac mae o wedi dod o hyd i ddeiliad y morgais ac wedi cyfnewid y cytundeb a'r cyfalaf yn yr obaith o gael ei dalu'n ôl gydag elw o ŵyr ymhen y flwyddyn. Mae'n dweud wrth Mill fod Fanni wedi bod mewn cariad ag Edoardo Milfort, a'i fod wedi ei wneud yn etifedd iddo. Mae Mill o'r diwedd yn cydsynio i'r briodas ac mae popeth yn gorffen yn hapus.

Disgyddiaeth

golygu
Blwyddyn Cast:
Syr Tobia Mill, Fanni, Edoardo, Slook
Arweinydd,
Tŷ opera a cherddorfa
Label [5]
1959 Rolando Panerai,
Renata Scotto,
Nicola Monti,
Renato Capecchi
Renato Fasano,
I Virtuosi di Roma
(Recordiwyd gan Mercury ddiwedd haf 1959 yn y Teatro Grande, Brescia)
Audio CD: Italian Opera Rarities
Cat: LO 7738
1990 Bruno Pratico,
Alessandra Rossi,
Maurizio Comencini,
Bruno de Simone
Marcello Viotti,
Cerddorfa Siambr Lloegr
Audio CD: Claves Records, Y Swistir
2006 Paolo Bordogna,
Desirée Rancatore,
Saimir Pirgu,
Fabio (Maria) Capitanucci
Umberto Benedetti Michelangeli,
Orchestra Haydn di Bolzano e Trento
(Recordiadau sain a fideo a wnaed mewn perfformiadau yng Ngŵyl Opera Rossini, Pesaro, Awst).
Audio CD: Dynamic
Cat: CDS 529;
DVD: Naxos
Cat: 2110228
2006 Vito Priante,
Julija Samsonova,
Daniele Zanfardino,
Giulio Mastrototaro
Christopher Franklin,
Cerddorfa Ffilharmonig Württemberg
(Recordiadau fideo a wnaed o berfformiadau yng Ngŵyl Rossini, Wildbad, 14 ac 16 Gorffennaf, 2006).
DVD: Bongiovanni
Cat: 20017

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Osborne, Richard (1998), "La cambiale", yn Stanley Sadie (Gol.), The New Grove Dictionary of Opera, Cyfrol 1. Llundain: Macmillan Publishers, Inc. ISBN 0-333-73432-7 ISBN 1-56159-228-5
  2. Nodiadau gan Martina Grempler ar gyfer recordiad Naxos, CD 8.660302 Archifwyd 2018-05-28 yn y Peiriant Wayback adalwyd 22 Medi 2010
  3. [Warrack, John a West, Ewan (1996), The Oxford Dictionary of Opera New York: OUP. ISBN 0-19-869164-5
  4. Casaglia, Gherardo (2005). "La cambiale di matrimonio, 3 November 1810". L'Almanacco di Gherardo Casaglia Nodyn:In lang.
  5. Recordiadau o La cambiale di matrimonio operadis-opera-discography.org.uk Archifwyd 2010-11-27 yn y Peiriant Wayback adalwyd 23 Medi 2020