Fata Morgana
Rhithlun cymhleth ac anghyffredin yw Fata Morgana a welir mewn llain gul yn syth uwchben y gorwel. Mae Fata Morgana yn aflunio golwg gwrthrych fel ei fod yn aml yn gwbl anadnabyddadwy, ac yn cynnwys delweddau unionsyth a gwrthdro ar ben ei gilydd. Yn aml mae ei golwg yn newid yn gyflym.
Achosir y ffenomen optegol hon gan belydrau golau yn plygu wrth iddynt dreiddio trwy haenau o aer o dymereddau gwahanol, sef gwrthdroad tymheredd, hynny yw mae aer twym mewn haen uwchben aer oer ac felly'n wahanol i'r arfer. Pan mae hyn yn ffurfio dwythell atmosfferig sy'n ymddwyn fel lens plygiannol, ceir Fata Morgana.[1]
Daw'r enw o'r Eidaleg am Morgan dduwies (Morgan le Fay), swynwraig yn chwedlau Arthur, gan gredai morwyr taw cestyll yn yr awyr a grewyd gan Morgan oedd y rhithlun, a welir yn aml yng Nghulfor Messina, oedd yn ceisio eu denu i'w marwolaeth. Yn ôl y Normaniaid, Calabria ger Culfor Messina oedd cartref Morgan dduwies.[2]
O bosib Fata Morgana sy'n gyfrifol am chwedl y Flying Dutchman.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mirages in the Sky.
- ↑ Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 475.
- ↑ Eyers, Jonathan (2011). Don't Shoot the Albatross!: Nautical Myths and Superstitions. A&C Black, Llundain. ISBN 978-1-4081-3131-2.