Culfor Messina
Culfor neu sianel sy'n gorwedd rhwng Calabria yn ne'r Eidal ac ynys Sisili yng nghanol y Môr Canoldir yw Culfor Messina. Fe'i enwir ar ôl dinas Messina, gogledd-ddwyrain Sisili, sy'n wynebu Reggio di Calabria ar y tir mawr. Dim ond 3 km (2 filltir) yw'r culfor ar ei gyfyngaf.
Math | culfor |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Môr Canoldir |
Gwlad | Yr Eidal |
Cyfesurynnau | 38.2458°N 15.6325°E |
Credir fod y creigiau miniog a geir ar yr ochr Calabriaidd a'r trobwll ffyrnig ar yr ochr Sisiliaidd yn sail i chwedl Scylla a Charybdis.