Ceri Rhys Matthews

Cerddor a chynhyrchydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, poblogeiddiwr defnydd ac alawon ar y pibau Cymreig

Cerddor cerddoriaeth draddodiadol Cymru,[1] cynhyrchydd recordiau,[2][3] ac athro yw Ceri Rhys Matthews (ganwyd 29 Mai 1960). Fe'i gysylltir fwyaf gydag adfywiad y pibau Cymreig.

Ceri Rhys Matthews
Ganwyd29 Mai 1960 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Arddullcanu gwerin Edit this on Wikidata
Ceri Rhys Matthews yn canu'r Pibau Cymreig (math deu-frwyn) traw G Fwyaf a wnaed gan Jonathan Shorland mewn seremoni yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2011

Bywgraffiad

golygu

Ganed Matthews ym maestref Treboeth, ger Abertawe. Addysgwyd ef mewn ysgol gynradd Ynystawe, Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, ac Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera (Bro Dur bellach), ac aeth ymlaen i astudio Celfyddyd Gain ac Arlunio yn Ysgol Gelf Abertawe a Choleg Celf Maidstone o dan Patricia Briggs, Robin Sewell, Noel White a Michael Upton.[4]

Cerddoriaeth a chynhyrchu

golygu

Fel unawdydd ac aelod o’r grŵp gwerin Cymreig, Fernhill,[5] fe’i galwyd yn “ffigwr allweddol yn y dadeni traddodiadau cerddorol Cymreig”, gan y newyddiadurwr Julian May yng nghylchgrawn Songlines a’i ddisgrifio ganddo fel “a one man Welsh music industry"[6] Mae wedi cynhyrchu 21 crynoddisg ar gyfer is-gwmni Fflach, fflach:tradd.[7] Yn 2000, cynhyrchodd Rough Guide to the Music of Wales ar gyfer y World Music Netowrk.[8] Yn 2009, fe gynhyrchodd Blodeugerdd: Song of the Flowers - An Anthology of Welsh Music and Song ar gyfer y Smithsonian Folkways a ddaeth yn gyntaf yng Ngwobrau Cerddoriaeth Annibynnol 2009 ar gyfer Albwm Traddodiadol Gorau'r Byd.[9]

Prosiectau

golygu

Bu iddo gychwyn ac yn dysgu cerddoriaeth mewn dau brosiect hunan-ariannu hirdymor cysylltiedig; Pibau Pencader, a phrosiect Sesiynau Ioan Rhagfyr, yn Tŷ Siamas, Dolgellau.[10][11] Roedd Ioan Rhagfyr (John Williams) yn gerddor o Ddolgellau (1740-1821).

Poblogeiddio'r Pibau Cymreig

golygu

Bu i Ceri Rhys Matthews wneud llawer wrth ddod â sain y pibau Cymreig neu alawon Cerddoriaeth draddodiadol Cymru ar bibau gwahanol, i sylw y cyhoedd. Ef oedd arweinydd gyntaf Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2013 pan ganodd y pibau wrth arwain yr Orymdaith drwy dref Aberystwyth gyda Dr Meredydd Evans fel tywysydd.[12][13]

Mae ei weithgareddau addysgu yn cwmpasu sbectrwm eang. Mae'r rhain yn cynnwys prosiect Ysgol Iau tymor hir i wneud ffliwt[14] yn Nolgellau, Cymru; addysgu mewn amrywiol Ysgolion Haf gan gynnwys The English Acoustic Collective Summer School, Ruskin Mill; ac ar y Penwythnosau Yscolan, Pentre Ifan.[15]

Mae’n diwtor gwadd ar y Radd BMus mewn cerddoriaeth werin a thraddodiadol ym Mhrifysgol Newcastle, a The Sage Gateshead; ac ar Radd Cerddoriaeth BMus (Anrh) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Disgyddiaeth

golygu
 
Ceri yn canu'r Pibaucyrn, math o bibgod, Washington D.C., 2011

Gyda'r grŵp y Saith Rhyfeddod

Fel cerddor unigol

Gyda'r grŵp Fernhill

Fel cynhyrchydd recordiau

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Vallely, Fintan. The Companion to Irish Traditional Music. Cork University Press, 1999, p. x. ISBN 1-85918-148-1
  2. "Smithsonian Folkways". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2009. Cyrchwyd 21 July 2009.
  3. "Various Artists - Blodeugerdd Song of the Flowers: An Anthology of Welsh Music And Song". Independentmusicawards.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-05. Cyrchwyd 2020-07-04.
  4. Golwg magazine. September 1991 issue.
  5. Harris, Craig. "Biography: Fernhill". Allmusic. Cyrchwyd 26 Ebrill 2010.
  6. Songlines magazine. Issue number 41.
  7. Living Tradition Magazine. Issue number 30. Article on fernhill
  8. "Rough Guide to the Music of Wales CD Album". Cduniverse.com. Cyrchwyd 2020-07-04.
  9. "The Independent Music Awards: Nominees : Album : World Traditional". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 March 2011. Cyrchwyd 2011-07-14.
  10. "Ceri Rhys Matthews". Virtual WOMEX. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.
  11. "Sesiwn Ioan Rhagfyr Dolgellau". Gwefan Trac. 2022. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.
  12. "Merêd yw tywysydd parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth". BBC Cymru Fyw. 10 Chwefror 2013.
  13. "700 yn mynychu parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth". BBC Cymru Fyw. 1 Mawrth 2013.
  14. Cambrian News. Article, April 2009.
  15. "Yscolan Residential Weekend For Musicians at Canolfan Yr Urdd on The Session". Thesession.org. Cyrchwyd 2020-07-04.
  16. "Ceri Rhys Matthews music". Discogs.com. Cyrchwyd 2020-07-04.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato