Ffasgaeth glerigol
Enw dirmygus ar fudiadau Catholig sy'n cofleidio safbwyntiau ffasgaidd yw ffasgaeth glerigol.
Bathwyd y term clerico-fascisti gan y Tad Luigi Sturzo, offeiriad Eidalaidd ac arweinydd y Partito Popolare Italiano, i ddisgrifio'r gwleidyddion a adawsant ei blaid i ymuno â'r Partito Nazionale Fascista dan Benito Mussolini. Defnyddiodd yr enw am y tro cyntaf mewn cyfweliad â phapur newydd La Stampa ar 10 Chwefror 1924.[1] Ymgeisiodd rhyw 14 ohonynt fel rhan o glymblaid y Lista Nazionale yn etholiad cyffredinol 1924. Yn ddiweddarach ffurfiwyd y mudiad Centro Nazionale Italiano i drefnu cefnogaeth yr eglwys dros ffasgaeth. Llwyddodd y grŵp hwnnw i baratoi am Gytundeb y Lateran (1929) rhwng Mussolini a'r Pab Pïws XI drwy ymgyrchu dros conciliazione (cymod) rhwng yr eglwys a'r wladwriaeth yn yr Eidal.[2]
Yn ddiweddarach yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, defnyddiwyd yr enw i ddisgrifio llywodraethau a oedd yn cyfuno ideolegau ffasgaidd a Chatholig, neu'n magu perthynas glos rhwng yr eglwys a'r wladwriaeth. Daeth nifer o'r pleidiau Catholig awdurdodaidd hyn i rym yng Nghanolbarth Ewrop, a chanddynt gefnogaeth grwpiau lledfilwrol yr adain dde eithafol, gan gynnwys y Vaterländische Front yn Awstria, Plaid y Bobl yn Slofacia, a'r Ustaše yng Nghroatia.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ John Pollard, "Conservative Catholics and Italian fascism: the Clerico-Fascists" yn Fascists and Conservatives: The radical right and the establishment in twentieth-century Europe, golygwyd gan Martin Blinkhorn (Routledge, 1990), t. 47.
- ↑ John Pollard, "Clerico-fascism" yn World Fascism: A Historical Encyclopedia, cyfrol 1, golygwyd gan Cyprian P. Blamires (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2006), t. 137.