Ffawna'r Traeth Ifori

anifeiliaid brodorol y Traeth Ifori

Yr anifeiliaid sy'n byw yn y Traeth Ifori yw ffawna'r Traeth Ifori. Mae bywyd gwyllt y wlad yn hynod o amrywiol, ac yn cynnwys nifer o rywogaethau nodweddiadol Gorllewin Affrica. Yn hanesyddol gorchuddiwyd y rhan fwyaf o'r wlad gan goedwigoedd glaw, ond cafodd rhannau mawr eu clirio yn yr 20g i wneud lle i amaeth. O ganlyniad mae bioamrywiaeth wedi lleihau, er bod nifer o rywogaethau yn dal i oroesi yn y safanâu, coedwigoedd galeri, a'r goedwig law sy'n weddill. Mae gan y wlad arfordir hir ar hyd Gwlff Gini, yng Nghefnfor yr Iwerydd, sy'n gartref i amrywiaeth eang o greaduriaid y môr gan gynnwys pysgod, dolffiniaid, môr-grwbanod, a chramenogion. Yn 2016 cofnodwyd 252 o rywogaethau o famaliaid, 666 o rywogaethau o adar, 153 o rywogaethau o ymlusgiaid, 80 o rywogaethau o amffibiaid, a 671 o rywogaethau o bysgod yn y Traeth Ifori.

Ffawna'r Traeth Ifori
Cob yn département Boundiali, yng ngogledd y Traeth Ifori.
Enghraifft o'r canlynolagweddau o ardal ddaearyddol Edit this on Wikidata
Mathfauna Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Traeth Ifori Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anifail mwyaf y Traeth Ifori ydy'r eliffant coedwig Affricanaidd, sydd wedi dirywio yn ei niferoedd o ganlyniad i herwhela a cholled ei gynefin. Mae mamaliaid mawr eraill yn cynnwys y byfflo Affricanaidd, a'r cor-afonfarch sy'n byw yng nghoedwigoedd, corsydd ac afonydd yn ne-orllewin y wlad,. Er bod y tsita a'r llew wedi darfod o'r wlad, mae'n debyg, mae'r llewpart yn bresennol o hyd. Mae primatiaid yn cynnwys y tsimpansî, y babŵn melynwyrdd, y mwnci gwyrdd, y mangabe braith, a'r colobws du-a-gwyn. Mae sawl rhywogaeth o afrewigod a charnolion eraill yn crwydro'r safanâu, gan gynnwys y cob, bwch y llwyni, yr afrewig ystlysgoch, bwch yr afon, yr afrewig froc, a'r oribi. Mae'r baedd coedwig mawr a'r baedd afon coch yn gyffredin.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Côte d'Ivoire: Plant and animal life. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Chwefror 2024.