Primat
Primatiaid | |
---|---|
Mandril (Mandrillus sphinx) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates Linnaeus, 1758 |
Is-urddau | |
|
Mamal hollysol a phrendrig fel arfer o'r urdd Primates a nodwedddir gan ddwylo a thraed pumbys gafaelog, golwg deulygad, trwyn cwta ac ymennydd mawr yw primat (lluosog y Lladin prīmās ‘primas, cyntaf’). Esblygodd y primatiaid 85–55 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP) yn gyntaf o famaliaid bach daeardrig, ac a ymaddasodd i fyw yn y coedwigoedd trofannol. Mae llawer o nodweddion primatiaid yn nodweddiadol iawn o'r ymaddasiadau hyn i fywyd yn yr amgylchedd heriol hwn, gan gynnwys ymennydd mawr, craffter gweledol, golwg lliw, gwregys yr ysgwydd a dwylo deheuig, defnyddiol. Mae'r grŵp yn cynnwys lemyriaid, lorisiaid, galagoaid, tarsieriaid, mwncïod ac epaod (gan gynnwys bodau dynol). Ceir yr amrywiaeth fwyaf o brimatiaid yn rhanbarthau trofannol ac isdrofannol Affrica, Asia a'r Amerig. Mae'r mwyafrif ohonynt yn byw mewn coed ac mae ganddynt nifer o ymaddasiadau er mwyn dringo. Mae llawer ohonynt yn hollysol ac yn bwydo ar ffrwythau, dail ac anifeiliaid bach.
Mae primatiaid yn amrywio o ran maint o'r lemwr lleiaf, y llyglemwr madam Berthe (Microcebus berthae) 9.2 cm, sy'n pwyso 30 gram (1 oz), i'r gorila dwyreiniol (Gorilla beringei), sy'n 1.8 metr o daldra ac yn pwyso dros 200 cilogram.
Ceir rhwng 376-522 o rywogaethau o brimatiaid byw, yn dibynnu ar ba ddosbarthiad a ddefnyddir. Mae rhywogaethau newydd yn parhau i gael eu darganfod: disgrifiwyd dros 25 o rywogaethau yn y 2000au, 36 yn y 2010au, a thri yn y 2020au.
Dosberthir primatiaid yn ddau is-urdd: y strepsirrhines a'r haplorhines. Mae strepsirrinau yn cynnwys y lemyriaid, y galagos, a'r lorisiaid, tra bod haplorhinau'n cynnwys yr epaod a'r mwncïod. Gellir dosbarthu'r mwncïod (y simiaid) ymhellach i fwncïod y Byd Newydd (Platyrrhina) a mwnciod yr Hen Fyd (Catarrhina), ac epaod (gan gynnwys bodau dynol). Deugain miliwn o flynyddoedd yn ôl, ymfudodd y mwncïod (simiaid) o Affrica i Dde America yn ôl pob tebyg trwy ddrifftio ar ganghenau coed, a arweiniodd at bum teulu gwreiddiol o fwncïod y Byd Newydd. Gwahanodd gweddill y simiaid i epaod (Hominoidea) a mwncïod yr Hen Fyd (Cercopithecoidea) tua 25 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y rhywogaethau cyffredin sy'n simiaidd mae'r babŵns yr Hen Fyd, y macaco, y giboniaid, yr epaod mawr; a'r mwncïod cycyllog, mwncïod udwyr a gwiwerfwncïod (y Byd Newydd).
Mae gan y primatiaid ymennydd mawr (o'i gymharu â maint y corff) yng nghyd-destyn mamaliaid eraill, yn ogystal â dibyniaeth gynyddol ar graffter gweledol ar draul yr ymdeimlad o arogl, sef y system synhwyraidd amlycaf yn y rhan fwyaf o famaliaid. Mae'r nodweddion hyn yn fwy datblygedig mewn mwncïod ac epaod, ac yn llai amlwg mewn lorisiaid a lemyriaid. Mae gan rai primatiaid olwg trilliw.
Ac eithrio epaod (gan gynnwys bodau dynol), mae gan brimatiaid fel prosimiaid a mwncïod gynffonau. Mae gan y rhan fwyaf o brimatiaid fodiau gwrthsymudol hefyd. Mae llawer o rywogaethau yn rhywiol ddwyffurf; gall y gwahaniaethau rhngddynt gynnwys màs y cyhyrau, dosbarthiad braster, lled pelfig, maint dannedd llygad, dosbarthiad gwallt, a lliwiad. Mae primatiaid yn datblygu'n arafach na mamaliaid eraill o faint tebyg, maent yn cyrraedd aeddfedrwydd yn hwyrach yn eu hoes, ond mae ganddynt oes hirach. Yn dibynnu ar y rhywogaeth, gall oedolion fyw ar ben ei hunain, mewn parau sy'n paru, neu mewn grwpiau o hyd at gannoedd o aelodau. Mae rhai primatiaid, gan gynnwys gorilod, bodau dynol a babŵns, yn ddaeardrig yn bennaf yn hytrach nag yn brendrig, ond mae gan bob rhywogaeth ymaddasiadau er mwyn dringo coed. Ymhlith y technegau ymsymud drwy goed mae neidio o goeden i goeden a siglo rhwng canghennau coed (breichio). Mae technegau ymsymud ar y ddaear yn cynnwys cerdded ar ei bedwar, weithiau ar ei gygnau, a symudedd dwy-droed.
Mae'n debygol fod y primatiaid ymhlith yr anifeiliaid mwyaf cymdeithasol ar wyneb y Ddaear, gan eu bod yn ffurfio parau (rhai am oes), grwpiau teuluol, haremau un-gwryw, a grwpiau aml-wryw/aml-benyw. Mae'r rhan fwyaf o brimatiaid yn aros yn rhannol brendrig o leiaf: yr eithriadau yw bodau dynol, rhai epaod mawr eraill, a babŵns, pob un ohonynt wedi gadael y coed am y ddaer ac sy'n awr yn byw ym mhob cyfandir dan haul.
Gall rhyngweithio agos rhwng bodau dynol a phrimatiaid an-ddynol drosglwyddo clefydau milheintiol, yn enwedig afiechydon firws, gan gynnwys herpes, y frech goch, ebola, y gynddaredd, a hepatitis. Defnyddir miloedd o brimatiaid an-ddynol mewn llawer o labordai ledled y byd oherwydd eu tebygrwydd seicolegol a ffisiolegol i fodau dynol. Mae tua 60% o rywogaethau o brimatiaid dan fygythiad difodiant. Ymhlith y bygythiadau mwyaf cyffredin mae: datgoedwigo a hela primatiaid i'w defnyddio mewn meddyginiaethau, fel anifeiliaid anwes, neu ar gyfer bwyd. Clirio coedwigoedd trofannol ar raddfa fawr ar gyfer amaethyddiaeth yw'r bygythiad mwyaf.
Ffylogeneg a geneteg
golygu
|
Esblygiad
golyguCredir bod llinach y primatiaid yn mynd yn ôl o leiaf i'r ffin rhwng y ddau gyfnod Cretasaidd-Paleogen hy tua 63–74 miliwn o flynyddoedd CP.[1][2][3][4][5] Er hyn, dim ond i'r Palesosen Diweddar Affrica mae'r ffosiliau'n dyddio (c.57 miliwn i flynyddoedd CP) (sef y rhywogaeth Altiatlasius)[6] neu'r trawsnewidiad Paleosen-Ëosen yn y cyfandiroedd gogleddol, c. 55 mof CP (Cantius, Donrussellia, Altanius, Plesiadapis a Teilhardina).[7][8][9] Mae astudiaethau eraill, gan gynnwys astudiaethau cloc moleciwlaidd, wedi amcangyfrif bod tarddiad cangen y primatiaid wedi bod yng nghanol y cyfnod Cretasaidd, tua 85 mof CP.[10][11][12]
Croesrywiau
golyguMae croesrywiau (neu hybridau) primataidd yn cael eu creu mewn caethiwed fel arfer,[13] ond bu enghreifftiau yn y gwyllt hefyd.[14][15] Mae croesi'n digwydd pan fo amrediad dwy rywogaeth yn gorgyffwrdd i ffurfio parthau croesryw; mae pobl yn creu croesrywiau pan roddir anifeiliaid mewn sŵ neu oherwydd pwysau amgylcheddol megis ysglyfaethu.[14] Mae croesrywedd rhyng-generig, h.y. croesrywiau o wahanol genera, hefyd wedi'u canfod yn y gwyllt. Er eu bod yn perthyn i genera sydd wedi gwahanu ers sawl miliwn o flynyddoedd, mae rhyngfridio yn dal i ddigwydd rhwng y gelada a'r babŵn hamadryas.[16]
Clonau
golyguAr 24 Ionawr 2018, adroddodd gwyddonwyr yn Tsieina yn y cyfnodolyn Cell am greu dau glon macac bwyta crancod, o'r enw Zhong Zhong a Hua Hua, gan ddefnyddio'r dull trosglwyddo DNA cymhleth o'r Alban a gynhyrchodd Dolly'r ddafad, am y tro cyntaf.[17][18][19][20][21]
Anatomeg a ffisioleg
golyguPen
golyguMae gan benglog y primatiaid greuan mawr cromennog, sy'n arbennig o amlwg mewn epaod dynaidd. Mae'r creuan yn amddiffyn yr ymennydd mawr, nodwedd wahaniaethol o'r grŵp hwn.[22] Mae'r cyfaint mewngreuanol (cyfaint y tu mewn i'r greuan) deirgwaith yn fwy mewn bodau dynol nag yn y primat annynol mwyaf, gan adlewyrchu maint mwy yr ymennydd.[23] Y cyfaint mewngreuanol cymedrig yw 1,201 centimetr ciwbig (cm3) bodau dynol, 469 cm3 mewn gorila, 400 cm3 mewn tsimpansî a 397 cm3 mewn orang-wtang.[23] Prif duedd esblygiad y primatiaid fu cynnydd ym maint yr ymennydd, yn enwedig y neocortecs (sef rhan ddorsal o'r freithell), sy'n ymwneud â chanfyddiad synhwyrau, cynhyrchu gorchmynion echddygol (motor commands), rhesymu gofodol, meddwl ymwybodol ac, mewn bodau dynol, iaith. Tra bod mamaliaid eraill yn dibynnu'n fawr ar eu synnwyr arogli, mae bywyd prendrig y primatiaid wedi arwain at system synhwyro wedi'i threchu gan weld a chyffwrdd,[24] at lleihad y llabed arogleuol ac at ymddygiad cymdeithasol cynyddol gymhleth.[25]
Mae gan brimatiaid lygaid sy'n wynebu ymlaen ar flaen y benglog, ac nid yn yr ochr; mae golwg deulygad yn caniatáu canfyddiad pellter eitha cywir.[22][26]
Corff
golyguYn gyffredinol mae gan brimatiaid bum bys ar bob aelod (breichiau a choesau), gyda math nodweddiadol o ewin ceratin ar ddiwedd pob bawd a bys. Mae gan ochrau gwaelod y dwylo a'r traed badiau sensitif ar flaenau eu bysedd. Mae gan y mwyafrif fodiau gwrthwynebol, nodwedd primataidd sydd wedi'i datblygu fwyaf mewn bodau dynol, er nad yw'n gyfyngedig i berson e.e. gall yr oposymiaid a'r coalas, ddod a'u bodiau at eu bysedd er mwyn gafael mewn rhyw wrthrych.[22] Mae bodiau felly'n caniatáu i rai rhywogaethau ddefnyddio offer. [22]
Difodiant yn bygwth
golyguMae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) yn rhestru mwy na thraean o archesgobion fel rhai sydd mewn perygl difrifol neu'n agored i niwed. Mae tua 60% o rywogaethau primatiaid dan fygythiad difodiant, gan gynnwys: 87% o rywogaethau ym Madagascar, 73% yn Asia, 37% yn Affrica, a 36% yn Ne a Chanolbarth America. [27] Yn ogystal, mae gan 75% o rywogaethau primatiaid boblogaethau sy'n lleihau. [27] Rheoleiddir masnach, gan fod pob rhywogaeth wedi'i rhestru gan CITES yn Atodiad II, ac eithrio 50 o rywogaethau ac isrywogaethau a restrir yn Atodiad I, sy'n cael eu hamddiffyn yn llawn rhag masnach. [28] [29]
Mae mwy na 90% o rywogaethau o brimatiaid i'w cael mewn coedwigoedd trofannol.[30][31] Prif achos colli coedwigoedd yw clirio ar gyfer amaethyddiaeth, er bod torri coed masnachol, cynaeafu pren, mwyngloddio ac adeiladu argaeau hefyd yn cyfrannu at ddinistrio coedwigoedd trofannol [31] Yn Indonesia mae ardaloedd mawr o goedwigoedd yr iseldir wedi'u clirio i gynhyrchu olew palmwydd, a daeth un dadansoddiad o ddelweddau lloeren i'r casgliad y collir 1,000 o orangwtangiaid Swmatra y flwyddyn yn Ecosystem Leuser yn unig yn ystod 1998 a 1999.[32]
Mae primatiaid â chorff mawr (dros 5 kg) mewn perygl cynyddol o ddifodiant oherwydd eu bod yn fwy proffidiol i botsiars o'u cymharu a phrimatiaid llai.[31] Maent yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol yn ddiweddarach ac yn cael cyfnod hirach rhwng genedigaethau. Felly mae poblogaethau'n gwella'n arafach ar ôl cael eu disbyddu gan botsian neu'r fasnach anifeiliaid anwes.[33] Mae data ar gyfer rhai dinasoedd yn Affrica yn dangos bod hanner yr holl brotein sy'n cael ei fwyta mewn ardaloedd trefol yn dod o gig lleol a gwyllt.[34] Mae primatiaid sydd mewn perygl fel ginonau a'r dril yn cael eu hela ar lefelau sy'n llawer uwch na'r lefelau cynaliadwy.[34] Mae hyn oherwydd maint eu cyrff mawr, rhwyddineb cludiant a gwerth ariannol yr anifail.[34] Wrth i ffermio dresmasu ar gynefinoedd coedwigoedd naturiol, mae primatiaid yn bwydo ar y cnydau, gan achosi colledion economaidd mawr i’r ffermwyr,[35] ac yn rhoi argraff negyddol i bobl leol o brimatiaid, ac yn arafu ymdrechion cadwraeth.[36]
Yn Asia, mae Hindŵaeth, Bwdhaeth ac Islam yn gwahardd bwyta cig primat; fodd bynnag, mae primatiaid yn dal i gael eu hela am fwyd.[31] Mae rhai crefyddau traddodiadol llai yn caniatáu bwyta cig primatiaid.[37][38] Mae'r fasnach anifeiliaid anwes a meddygaeth draddodiadol hefyd yn cynyddu'r galw am hela anghyfreithlon.[39][40][41] Gwarchodwyd y macac rhesws, organeb enghreifftiol, ar ôl i drapio ei fygwth yn y 1960au; roedd y rhaglen mor effeithiol fel bod y macac rhesws, bellach, yn cael eu hystyried yn bla![42]
Ceir 21 o brimatiaid mewn perygl difrifol, gyda 7 ohonynt wedi aros ar restr yr IUCN "y 25 Primat Mwyaf Mewn Perygl yn y Byd", a hynny ers 2000: y siffaca sidanaidd, y langur Delacour, y langur penwyn, y douc llwyd, y mwnci Tonkin trwyn pwt, y Croeswr afon (gorila) a'r orang-wtang Swmatra.[43] Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod y colobus coch Miss Waldron wedi'u difodi'n llwyr pan nad oedd unrhyw olion o'r isrywogaeth i'w ganfod rhwng 1993 ac 1999.[44] Mae ychydig o helwyr wedi canfod a lladd unigolion ers hynny, ond mae rhagolygon yr isrywogaeth yn parhau i fod yn llwm.[45]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, B.A.; Kay, R.F.; Kirk, E.C. (2010). "New perspectives on anthropoid origins". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 107 (11): 4797–4804. Bibcode 2010PNAS..107.4797W. doi:10.1073/pnas.0908320107. PMC 2841917. PMID 20212104. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2841917.
- ↑ Stanyon, Roscoe; Springer, Mark S.; Meredith, Robert W.; Gatesy, John; Emerling, Christopher A.; Park, Jong; Rabosky, Daniel L.; Stadler, Tanja et al. (2012). "Macroevolutionary Dynamics and Historical Biogeography of Primate Diversification Inferred from a Species Supermatrix". PLOS ONE 7 (11): e49521. Bibcode 2012PLoSO...749521S. doi:10.1371/journal.pone.0049521. ISSN 1932-6203. PMC 3500307. PMID 23166696. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3500307.
- ↑ Jameson, Natalie M.; Hou, Zhuo-Cheng; Sterner, Kirstin N.; Weckle, Amy; Goodman, Morris; Steiper, Michael E.; Wildman, Derek E. (September 2011). "Genomic data reject the hypothesis of a prosimian primate clade". Journal of Human Evolution 61 (3): 295–305. doi:10.1016/j.jhevol.2011.04.004. ISSN 0047-2484. PMID 21620437.
- ↑ Pozzi, Luca; Hodgson, Jason A.; Burrell, Andrew S.; Sterner, Kirstin N.; Raaum, Ryan L.; Disotell, Todd R. (June 2014). "Primate phylogenetic relationships and divergence dates inferred from complete mitochondrial genomes". Molecular Phylogenetics and Evolution 75: 165–183. doi:10.1016/j.ympev.2014.02.023. ISSN 1055-7903. PMC 4059600. PMID 24583291. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4059600.
- ↑ Stanyon, Roscoe; Finstermeier, Knut; Zinner, Dietmar; Brameier, Markus; Meyer, Matthias; Kreuz, Eva; Hofreiter, Michael; Roos, Christian (16 July 2013). "A Mitogenomic Phylogeny of Living Primates". PLOS ONE 8 (7): e69504. Bibcode 2013PLoSO...869504F. doi:10.1371/journal.pone.0069504. ISSN 1932-6203. PMC 3713065. PMID 23874967. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3713065.
- ↑ Williams, B. A.; Kay, R. F.; Kirk, E. C. (2010). "New perspectives on anthropoid origins". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 107 (11): 4797–4804. Bibcode 2010PNAS..107.4797W. doi:10.1073/pnas.0908320107. PMC 2841917. PMID 20212104. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2841917.
- ↑ Miller, E. R.; Gunnell, G. F.; Martin, R. D. (2005). "Deep Time and the Search for Anthropoid Origins". American Journal of Physical Anthropology 128: 60–95. doi:10.1002/ajpa.20352. PMID 16369958. http://www.paleontology.lsa.umich.edu/Accomplishments/deeptime.ajpa2005.pdf.
- ↑ Chatterjee, Helen J; Ho, Simon Y.W.; Barnes, Ian; Groves, Colin (27 October 2009). "Estimating the phylogeny and divergence times of primates using a supermatrix approach". BMC Evolutionary Biology 9 (1): 259. doi:10.1186/1471-2148-9-259. PMC 2774700. PMID 19860891. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2774700.
- ↑ O'Leary, M. A. (8 February 2013). "The placental mammal ancestor and the post–K-Pg radiation of placentals". Science 339 (6120): 662–667. Bibcode 2013Sci...339..662O. doi:10.1126/science.1229237. PMID 23393258. https://archive.org/details/sim_science_2013-02-08_339_6120/page/662.
- ↑ Lee, M. (September 1999). "Molecular Clock Calibrations and Metazoan Divergence Dates". Journal of Molecular Evolution 49 (3): 385–391. Bibcode 1999JMolE..49..385L. doi:10.1007/PL00006562. PMID 10473780. https://archive.org/details/sim_journal-of-molecular-evolution_1999-09_49_3/page/385.
- ↑ "Scientists Push Back Primate Origins From 65 Million To 85 Million Years Ago". Science Daily. Cyrchwyd 2008-10-24.
- ↑ Tavaré, S.; Marshall, C. R.; Will, O.; Soligo, C.; Martin R.D. (April 18, 2002). "Using the fossil record to estimate the age of the last common ancestor of extant primates". Nature 416 (6882): 726–729. Bibcode 2002Natur.416..726T. doi:10.1038/416726a. PMID 11961552. https://archive.org/details/sim_nature-uk_2002-04-18_416_6882/page/726.
- ↑ Tenaza, R. (1984). "Songs of hybrid gibbons (Hylobates lar × H. muelleri)". American Journal of Primatology 8 (3): 249–253. doi:10.1002/ajp.1350080307. PMID 31986810.
- ↑ 14.0 14.1 Bernsteil, I. S. (1966). "Naturally occurring primate hybrid". Science 154 (3756): 1559–1560. Bibcode 1966Sci...154.1559B. doi:10.1126/science.154.3756.1559. PMID 4958933. https://archive.org/details/sim_science_1966-12-23_154_3756/page/n62.
- ↑ Sugawara, K. (January 1979). "Sociological study of a wild group of hybrid baboons between Papio anubis and P. hamadryas in the Awash Valley, Ethiopia". Primates 20 (1): 21–56. doi:10.1007/BF02373827.
- ↑ Jolly, C. J.; Woolley-Barker, Tamsin; Beyene, Shimelis; Disotell, Todd R.; Phillips-Conroy, Jane E. (1997). "Intergeneric Hybrid Baboons". International Journal of Primatology 18 (4): 597–627. doi:10.1023/A:1026367307470.
- ↑ Liu, Zhen (24 January 2018). "Cloning of Macaque Monkeys by Somatic Cell Nuclear Transfer". Cell 172 (4): 881–887.e7. doi:10.1016/j.cell.2018.01.020. PMID 29395327.
- ↑ Normile, Dennis (24 January 2018). "These monkey twins are the first primate clones made by the method that developed Dolly". Science. doi:10.1126/science.aat1066. http://www.sciencemag.org/news/2018/01/these-monkey-twins-are-first-primate-clones-made-method-developed-dolly. Adalwyd 24 January 2018.
- ↑ Cyranoski, David (24 January 2018). "First monkeys cloned with technique that made Dolly the sheep - Chinese scientists create cloned primates that could revolutionize studies of human disease.". Nature 553 (7689): 387–388. Bibcode 2018Natur.553..387C. doi:10.1038/d41586-018-01027-z. PMID 29368720.
- ↑ Briggs, Helen (24 January 2018). "First monkey clones created in Chinese laboratory". BBC News. Cyrchwyd 24 January 2018.
- ↑ "Scientists Successfully Clone Monkeys; Are Humans Up Next?". The New York Times. Associated Press. 24 January 2018. Cyrchwyd 24 January 2018.
- ↑ 22.0 22.1 22.2 22.3 Pough, F. W.; Janis, C. M.; Heiser, J. B. (2005) [1979]. "Characteristics of Primates". Vertebrate Life (arg. 7th). Pearson. t. 630. ISBN 0-13-127836-3.
- ↑ 23.0 23.1 Aiello, L.; Dean, C. (1990). An Introduction to Human Evolutionary Anatomy. Academic Press. t. 193. ISBN 0-12-045590-0.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwbritannica
- ↑ Myers, P. (1999). ""Primates" (On-line)". Animal Diversity Web. Cyrchwyd 2008-06-03.
- ↑ Campbell, B. G.; Loy, J. D. (2000). Humankind Emerging (arg. 8th). Allyn & Bacon. t. 85. ISBN 0-673-52364-0.
- ↑ 27.0 27.1 Estrada, Alejandro; Garber, Paul A.; Rylands, Anthony B.; Roos, Christian; Fernandez-Duque, Eduardo; Fiore, Anthony Di; Nekaris, K. Anne-Isola; Nijman, Vincent et al. (2017-01-01). "Impending extinction crisis of the world's primates: Why primates matter" (yn en). Science Advances 3 (1): e1600946. Bibcode 2017SciA....3E0946E. doi:10.1126/sciadv.1600946. ISSN 2375-2548. PMC 5242557. PMID 28116351. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5242557.
- ↑ IFAW (2005). Born to be wild: Primates are not pets (PDF). International Fund for Animal Welfare. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-07-26. Cyrchwyd 2011-02-26.
- ↑ CITES (2010-10-14). "Appendices I, II and III". Convention on International Trade in Endangered Species of Wild Fauna and Flora. Cyrchwyd 2012-04-02.
- ↑ Mittermeier, R. A.; Cheney, D. L. (1987). "Conservation of primates and their habitats". In Smuts, B. B.; Cheney, D. L.; Seyfarth, R. M.; Wrangham, R. W. (gol.). Primate Societies. Chicago: University of Chicago Press. tt. 477–490.
- ↑ 31.0 31.1 31.2 31.3 Cowlishaw, G.; Dunbar, R. (2000). Primate Conservation Biology. Chicago: University of Chicago Press. ISBN 978-0-226-11637-2.
- ↑ Van Schaik, C. P.; Monk, K. A.; Robertson, J. M. Y. (2001). "Dramatic decline in orangutan numbers in the Leuser Ecosystem, northern Sumatra". Oryx 35 (1): 14–25. doi:10.1046/j.1365-3008.2001.00150.x.
- ↑ Purvis, A.; Gittleman, J. L.; Cowlishaw, G.; Mace, G. M. (2000). "Predicting extinction risk in declining species". Proceedings of the Royal Society B 267 (1456): 1947–1952. doi:10.1098/rspb.2000.1234. PMC 1690772. PMID 11075706. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1690772.
- ↑ 34.0 34.1 34.2 Fa, J. E.; Juste, J.; Perez de Val, J.; Castroviejo, J. (1995). "Impact of market hunting on mammal species in Equatorial Guinea". Conservation Biology 9 (5): 1107–1115. doi:10.1046/j.1523-1739.1995.9051107.x. PMID 34261280. https://archive.org/details/sim_conservation-biology_1995-10_9_5/page/1107.
- ↑ Hill, C. M. (1997). "Crop-raiding by wild vertebrates: The farmer's perspective in an agricultural community in western Uganda". International Journal of Pest Management 43 (1): 77–84. doi:10.1080/096708797229022.
- ↑ Hill, C. M. (2002). "Primate conservation and local communities: Ethical issues and debates". American Anthropologist 104 (4): 1184–1194. doi:10.1525/aa.2002.104.4.1184. https://archive.org/details/sim_american-anthropologist_2002-12_104_4/page/1184.
- ↑ Choudhury, A. (2001). "Primates in Northeast India: an overview of their distribution and conservation status". Envis Bulletin: Wildlife and Protected Areas 1 (1): 92–101. http://www.wii.gov.in/envis/primates/downloads/page92primatesne.pdf. Adalwyd 2008-08-04.
- ↑ Kumara, H. N.; Singh, M. (October 2004). "Distribution and abundance of primates in rainforests of the Western Ghats, Karnataka, India and the conservation of Macaca silenus". International Journal of Primatology 25 (5): 1001–1018. doi:10.1023/B:IJOP.0000043348.06255.7f.
- ↑ Workman, C. (June 2004). "Primate conservation in Vietnam: toward a holistic environmental narrative". American Anthropologist 106 (2): 346–352. doi:10.1525/aa.2004.106.2.346. https://archive.org/details/sim_american-anthropologist_2004-06_106_2/page/346.
- ↑ Nijman, V. (2004). "Conservation of the Javan gibbon Hylobates moloch: population estimates, local extinction, and conservation priorities". The Raffles Bulletin of Zoology 52 (1): 271–280. http://rmbr.nus.edu.sg/rbz/biblio/52/52rbz271-280.pdf. Adalwyd 2008-08-04.
- ↑ O'Brien, T. G.; Kinnaird, M. F.; Nurcahyo, A.; Iqbal, M.; Rusmanto, M. (April 2004). "Abundance and distribution of sympatric gibbons in a threatened Sumatran rain forest". International Journal of Primatology 25 (2): 267–284. doi:10.1023/B:IJOP.0000019152.83883.1c.
- ↑ Southwick, C. H.; Siddiqi, M. F. (2001). "Status, conservation and management of primates in India". Envis Bulletin: Wildlife and Protected Areas 1 (1): 81–91. http://www.wii.gov.in/envis/primates/downloads/page81statusofprimates.pdf. Adalwyd 2008-08-04.
- ↑ Mittermeier, R.A.; Wallis, J.; Rylands, A.B.; Ganzhorn, J.U., gol. (2009). Primates in Peril: The World's 25 Most Endangered Primates 2008–2010 (PDF). Illustrated by S.D. Nash. Arlington, VA.: IUCN/SSC Primate Specialist Group (PSG), International Primatological Society (IPS), and Conservation International (CI). tt. 23–26. ISBN 978-1-934151-34-1.
- ↑ Oates, J. F.; Abedi-Lartey, M.; McGraw, W. S.; Struhsaker, T. T.; Whitesides, G. H. (October 2000). "Extinction of a West African Red Colobus Monkey". Conservation Biology 14 (5): 1526–1532. doi:10.1046/j.1523-1739.2000.99230.x. https://archive.org/details/sim_conservation-biology_2000-10_14_5/page/1526.
- ↑ McGraw, W. S. (June 2005). "Update on the Search for Miss Waldron's Red Colobus Monkey". International Journal of Primatology 26 (3): 605–619. doi:10.1007/s10764-005-4368-9.
Darllen pellach
golygu- David J. Chivers; Bernard A. Wood; Alan Bilsborough, gol. (1984). Food Acquisition and Processing in Primates. New York & London: Plenum Press. ISBN 0-306-41701-4.
Dolenni allanol
golygu- Rhwyd Gwybodaeth Primad
- Archesgobion ar y We Amrywiaeth Anifeiliaid
- Sefydliad Ymchwil Primate, Prifysgol Kyoto
- Atlasau Ymennydd Archesgobol Cytoarchitectural Cydraniad Uchel
- EUPRIM-Net: Rhwydwaith Archesgobion Ewrop
- Delweddau Primate: Casgliad Hanes Natur
- Golygfeydd rhyngweithiol o amrywiol sgerbydau primatiaid yn eSkeletons.org (sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Texas yn Austin )
- Prosiect gwe Coed y Bywyd Archifwyd 2011-04-26 yn y Peiriant Wayback