Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania

corff llwydraethol pêl-droed Lithwania

Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania (LFF) (Lithwaneg:Lietuvos futbolo federacija) yw corff llywodraethol pêl-droed yn Lithwania.

Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd1922
Aelod cywllt o FIFA1923
Aelod cywllt o UEFA1992
LlywyddEdgaras Stankevičius (2023-)
Gwefanlff.lt
Pencadlys yr LFF, 2014

Mae'r Ffederasiwn yn gyfrifol am ddatblygu a gweinyddu y gêm a'r timau cenedlaethol, gan gynnwys Tîm pêl-droed cenedlaethol Lithwania.

Lleolir pencadlys y Ffederasiwn yn y brifddinas, Vilnius.

Daeth yr LFF yn aelod o FIFA yn 1923 gan gystadlu yn Gemau'r Olympaidd a chystadleuthau eraill. Yn dilyn gwladychu Lithwania gan yr Undeb Sofietaidd yn 1940 diddymwyd y tîm cenedlaethol a'r Ffederasiwn. Ail-ymgorfforwyd y LFF yn 1992 yn dilyn Lithwania yn ail-ennill ei hannibyniaeth.

Gelwir prif adran bêl-droed y wlad yn A Lyga.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu