Tîm pêl-droed cenedlaethol Lithwania
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Lithwania (Lithwaneg: Lietuvos vyrų futbolo rinktinė) yn cynrychioli Lithwania yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania (Lithwaneg: Lietuvos futbolo federacija) (LFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Enghraifft o'r canlynol | tîm pêl-droed cenedlaethol |
---|---|
Perchennog | Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania |
Enw brodorol | Lietuvos vyrų futbolo rinktinė |
Gwladwriaeth | Lithwania |
Gwefan | https://lff.lt/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfnod Cyntaf
golyguFfurfiwyd yr LFF ym 1923, daethant yn aelodau o FIFA yn yr un flwyddyn[1] a chystadlu yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis. Ym 1940 cafodd Lithwania ei oresgyn gan yr Undeb Sofietaidd gyda'r LFF yn cael ei ddiddymu hyd nes 1990 pan lwyddodd Lithwania i sicrhau annibyniaeth.
Ail-ffurfio gydag annibyniaeth
golyguYm 1990 ail-ffurfiwyd yr LFF a chwaraewyd eu gêm gyntaf fel gwlad annibynnol yn erbyn Georgia ar 27 Mai 1990[1]. Cawsant eu derbyn yn aelodau o FIFA ym 1991 ac yna UEFA ym 1992[1].
Nid yw Lithwania erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.
Ar 6 Medi 2008, curodd Lithqania dîm RWmania 3–0 mewn gêm rhag-brofol i Gwpan y Byd 2010. Canwyd clod y fuddugoliaeth fel "buddugoliaeth hanesyddol".[2] Dilynwyd hyn gan fuddugoliaeth 2 - 0 yn erbyn Awstria yn Marijampolė ar 10 Medi 2008.
Gemau o Bwys
golygu- Gêm ryngwladol gyntaf - Lithwania 0–5 Estonia
- (Kaunas, Lithuania; 24 Mehefin 1923)
- Buddugoliaeth fwyaf - Lithwania 7–0 Estonia
- (Riga, Latfia; 20 Mai 1995)
- Colled fwyaf - Yr Aifft 10–0 Lithwania
- (Paris, Ffrainc; 27 Mai 1924)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Uefa: Lithuania history". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-14. Cyrchwyd 2014-12-23. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ FIFA World Cup uefa.com