Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa

cyn-wlad yn Affrica

Ffederasiwn ymreolaethol dan y Goron Brydeinig yn neheudir Affrica oedd Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa (Saesneg: Federation of Rhodesia and Nyasaland) neu Ffederasiwn Canolbarth Affrica (Central African Federation) a oedd yn cyfuno gwladfa ymreolaethol De Rhodesia â phrotectoriaethau Gogledd Rhodesia a Gwlad Nyasa. Sefydlwyd y ffederasiwn ar 1 Awst 1953, a chanddi statws yn debyg i ddominiwn yn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i ben ar 31 Rhagfyr 1963.

Ffedersaiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa
Mathgwlad ar un adeg, Dominiwn Edit this on Wikidata
PrifddinasHarare Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,411,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1953 Edit this on Wikidata
AnthemGod Save the King Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd1,261,674 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17.863889°S 31.029722°E Edit this on Wikidata
Map
ArianRhodesia and Nyasaland pound Edit this on Wikidata

Ers y 1920au, bu setlwyr croenwyn yn Ne Rhodesia ac yng Ngogledd Rhodesia yn galw am uno'r ddwy diriogaeth er mwyn canoli grym y lleiafrifoedd Ewropeaidd. Gwrthwynebwyd yr ymdrechion hyn gan Swyddfa'r Trefedigaethau, wrth i'r awdurdodau geisio ymateb yn dringar i bryderon yr Affricanwyr croenddu. Wedi'r Ail Ryfel Byd, tyfodd yr economi o ganlyniad i ddiwydiannau eilradd yn Ne Rhodesia a'r diwydiant copr yng Ngogledd Rhodesia, a chynyddodd y niferoedd o fewnfudwyr croenwyn yn sylweddol. Dechreuodd gwleidyddion a diwydianwyr croenwyn ymgyrchu o ddifri dros integreiddio Rhodesia gyfan er mwyn elwa ar farchnadoedd mawr a llafurlu o weithwyr croenddu, gan gynnwys Gwlad Nyasa. Llwyddasant ddwyn perswâd ar lywodraeth y Deyrnas Unedig, a oedd yn bwriadu creu gwladwriaeth amlhiliol i wrthsefyll trefn apartheid yn Ne Affrica. Gwrthwynebwyd y ffederasiwn gan bobl dduon yng Ngogledd Rhodesia a Gwlad Nyasa, am iddynt ofni y byddai poblogaeth groenwen De Rhodesia yn rheoli'r llywodraeth.[1]

Yn sgil terfysgoedd gan genedlaetholwyr croenddu yng Ngwlad Nyasa ym 1959, a'r ymateb llawdrwm gan yr awdurdodau, penderfynodd llywodraeth y Deyrnas Unedig ar bolisi o drosglwyddo grym gwleidyddol i'r mwyafrifoedd Affricanaidd. Dadsefydlwyd y ffederasiwn yn niwedd 1963, ac ym 1964 rhoddwyd annibyniaeth i Malawi (Gwlad Nyasa) a Sambia (Gogledd Rhodesia). Ym 1965 datganwyd annibyniaeth gan Dde Rhodesia heb ganiatâd y Deyrnas Unedig, a sefydlwyd Gweriniaeth Rhodesia.

Llywodraeth golygu

Rhestr Llywodraethwyr Cyffredinol
Rhestr Prif Weinidogion

Cyfeiriadau golygu