Gwlad yn ne Affrica yw Gweriniaeth Malawi, neu Malawi (yn Saesneg: Republic of Malawi, yn Chichewa: Dziko la Malaŵi). Y gwledydd cyfagos yw Tansanïa i'r gogledd, Sambia i'r gorllewin, a Mosambic i’r de a'r dwyrain. Mae'n annibynnol ers 1964. Prifddinas Malawi yw Lilongwe.

Malawi
Zomba Plateau banner.jpg
Coat of arms of Malawi.svg
Arwyddair Unity and Freedom Edit this on Wikidata
Math gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Llyn Malawi Edit this on Wikidata
Lb-Malawi.ogg Edit this on Wikidata
Prifddinas Lilongwe Edit this on Wikidata
Poblogaeth 18,622,104 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Gorffennaf 1964 Edit this on Wikidata
Anthem Mulungu dalitsa Malaŵi Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Lazarus Chakwera Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Chichewa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Dwyrain Affrica Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Malawi Malawi
Arwynebedd 118,484.186083 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Sambia, Tansanïa, Mosambic Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 13°S 34°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Cabinet of Malawi Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol National Assembly Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
President of Malawi Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Lazarus Chakwera Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of Malawi Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Lazarus Chakwera Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) $6,303 million Edit this on Wikidata
CMC y pen $338 Edit this on Wikidata
Arian Malawian kwacha Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 8 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 5.129 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.477 Edit this on Wikidata

Daearyddiaeth MalawiGolygu

Prif erthygl: Daearyddiaeth Malawi

Gwlad hir a chul, heb arfordir, yw Malawi. Mae rhan ogleddol y wlad ar ochr orllewinol Llyn Malawi. Yn y gogledd, saif rhwng Sambia yn y gorllewin a Tansanïa a Mosambic yn y dwyrain, yr ochr draw i Llyn Malawi. Yn y de, mae'r wlad yn ymestyn i mewn i Mosambic ar hyd dyffryn afon Shire. Nid oes gan Malawi arfordir, ond mae rheilffordd yn ei chysylltu a phorthladdoedd Nacala a Beira yn Mosambic.

Rhed y Dyffryn Hollt Mawr ar hyd y wlad o'r gogledd i'r de, a cheir nifer o lynnoedd yn y dyffryn. Llyn Malawi yw'r trydydd llyn yn Affrica o ran arwynebedd. Llifa afon Shire o ben deheuol y llyn i ymuno ag afon Zambezi yn Mosambic. Bob ochr i'r Dyffryn Hollt, mae'r wlad yn un fynyddig. Yn y gogledd, mae Ucheldir Nyika yn cyrraedd 2,600 medr uwch lefel y môr, ac i'r de o Lyn Malawi mae Ucheldiroedd Shire, sy'n cyrraedd uchder o 2,130 m ar Ucheldir Zomba a 3,002 m yn Mynyddoedd Mulanje.

Mae dwysder poblogaeth Malawi yn uchel i wlad yn Affrica. Y ddinas fwyaf, yn ôl pob tebyg, yw Blantyre, gyda phoblogaeth o tua 500,000, tra mae poblogaeth y brifddinas, Lilongwe, dros 400,000. Mae'r tywydd yn drofannol, gyda tymor glawog rhwng Tachwedd ac Ebrill, ac ychydig iawn o law rhwng Mai a Hydref. Ar y tir isel ceir tymheredd o tua 27° to 29 °C rhwng Medi ac Ebrill, a tua 23° rhwng Mai a Medi.

Hanes MalawiGolygu

Prif erthygl: Hanes Malawi

Cafwyd hyd i olion hominid yn dyddio'n ôl tua miliwn o flynyddoedd yn yr ardal yma, ac roedd pobl gynnar yn byw ar lannau Llyn Malawi 50,000 i 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Gelwir y trigolion cynnar yr Akufula neu'r Batwa. Hwy oedd yn gyfrifol am yr arlunwaith craig i'r de o Lilongwe, yn Chencherere a Mphunzi.

Yn ystod y 16g, sefydlwyd gwladwriaeth Maravi gan gangen o'r bobloedd Bantu o gwmpas Llyn Malawi. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi". Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd Tumbuka a Tonga yn y gogledd i ran isaf afon Shire yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd Luangwa a Zambezi. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl Kalonga. Manthimba oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd Chichewa.

Yn y 19g, symudodd nifer o bobloedd eraill i'r ardal. Daeth pobl y Ngoni, neu'r Angoni, o ardal Natal, yn yr hyn sy'n awr yn Dde Affrica, yn ffoi oddi wrth Ymerodraeth y Zulu, oedd yn ymestyn ei grym dan Shaka Zulu. Grŵp arall o fewnfudwyr oedd yr Yao neu Ayao, o'r hyn sy'n awr yn ogledd Mosambic. Cyn hir roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, y Ngoni a'r Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision. Roedd yr Yao wedi troi at Islam, ac wedi datblygu partneriaeth a marsiandïwyr caethion Arabaidd.

Roedd y Portiwgeaid wedi ymsefydlu ar yr arfordir ers yr 16g, ond ymddengys mai'r Ewropead cyntaf i gyrraedd Llyn Malawi oedd David Livingstone yn 1859. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlodd cenhadon Albanaidd yn y wlad. Yn 1891, daeth y diriogaeth yn than o'r Ymerodraeth Brydeinig, ac yn 1907 rhoddwyd yr enw Nyasaland arni.

Yn ystod y 1950au, bu nifer o ymgyrchoedd i geisio ennill annibyniaeth. Un o'r arweinwyr oedd Dr Hastings Kamuzu Banda, a ddaeth yn Brif Weinidog pan ddaeth Malawi yn wlad annibynnol yn 1964, ac yn Arlywydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Dim ond un blaid a ganiateid, ac yn 1970, cyhoeddwyd Banda yn Arlywydd am Oes.

Yn 1993, pleidleisiodd pobl Malawi mewn refferendwm dros gael system ddemocrataidd, sydd wedi parhau ers hynny. Bingu wa Mutharika oedd yr arlywydd o 2004 tan ei farwolaeth yn Ebrill 2012.

Gwleidyddiaeth MalawiGolygu

Iaith a diwylliantGolygu

Yn ogystal â Saesneg mae Chichewa yn iaith swyddogol sy'n cael ei siarad gan 57.2% o'r boblogaeth. Yr ieithoedd brodorol eraill yw Chinyanja (12.8%), Chiyao (10.1%), Chitumbuka (9.5%), Chisena (2.7%), Chilomwe (2.4%), a Chitonga (1.7%). Ceir sawl iaith arall (3.6%). (Cyfrifiad 1998, CIA World Factbook).

Economi MalawiGolygu

Prif erthygl: Economi Malawi

Gweler hefydGolygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.