Gwleidydd oedd Godfrey Martin Huggins, Is-iarll 1af Malvern o Rodesia ac o Bexley (6 Gorffennaf 18838 Mai 1971) a fu'n Brif Weinidog De Rhodesia o 1933 i 1953 ac yn Brif Weinidog Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa o 1953 i 1956.

Godfrey Huggins
Ganwyd6 Gorffennaf 1883 Edit this on Wikidata
Bexley Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1971 Edit this on Wikidata
Harare Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Malvern Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg yn y fyddin, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnited Federal Party Edit this on Wikidata
TadGodfrey Huggins Edit this on Wikidata
MamEmily Blest Edit this on Wikidata
PriodBlanche Elizabeth Slatter Edit this on Wikidata
PlantJohn Godfrey Huggins, 2nd Viscount Malvern of Rhodesia and Bexley, Martin James Huggins Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr Edit this on Wikidata

Ganed yn Bexley, Caint. Gweithiodd yn feddyg yn Llundain cyn iddo ymfudo ym 1911 i Salisbury yn neheubarth Rhodesia (bellach Harare, Simbabwe), pan oedd y diriogaeth honno dan reolaeth Cwmni Prydeinig De Affrica. Gweithiodd yn llawfeddyg yn Salisbury, a phan ddaeth De Rhodesia yn wladfa hunanlywodraethol ym 1923 fe'i etholwyd yn aelod o'r Cyngor Deddfwriaethol.[1]

Dan ei arweiniad, enillodd y Blaid Ddiwygio fwyafrif cymharol o seddi'r Cynulliad yn etholiad 1933, a phenodwyd Huggins felly yn Brif Weinidog De Rhodesia. Bu hefyd yn dal swydd ysgrifennydd dros faterion brodorol hyd at 1949. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1941, a fe'i elwir yn Syr Godfrey Huggins nes iddo dderbyn ei is-iarllaeth ym 1955.

Huggins oedd y prif arweinydd yn yr ymgyrch i gyfuno gwladfa De Rhodesia â phrotectoriaethau Gogledd Rhodesia a Gwlad Nyasa, ac yn sgil ffurfio Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa ym 1953 enillodd ei Blaid Ffederal yr etholiad a fe'i penodwyd yn brif weinidog. Fe'i olynwyd yn brif weinidog y ffederasiwn gan Syr Roy Welensky ym 1956.

Bu farw yr Arglwydd Malvern yn Salisbury yn 87 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Godfrey Huggins, 1st Viscount Malvern. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Awst 2020.