Roy Welensky
Gwleidydd ac undebwr llafur o Ogledd Rhodesia oedd Syr Roy Welensky (20 Ionawr 1907 – 5 Rhagfyr 1991) a wasanaethodd yn Ddirprwy Brif Weinidog (1953–56) ac yn Brif Weinidog (1956–63) Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa.
Roy Welensky | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 1907 Harare |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1991 Blandford Forum |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, De Rhodesia, Northern Rhodesia, Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa |
Galwedigaeth | gyrrwr trên, undebwr llafur, paffiwr, gwleidydd, peiriannydd |
Swydd | Prif Weinidog Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Sambia |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | United Federal Party, Northern Rhodesian Labour Party |
Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr, Marchog Faglor |
Chwaraeon |
Ganed Roland Welensky yn Salisbury yn neheubarth Rhodesia (bellach Harare, Simbabwe), pan oedd y diriogaeth honno dan reolaeth Cwmni Prydeinig De Affrica. Roedd ei dad yn Iddew o Lithwania, a'i fam yn Affricaner o Dde Affrica. Bu'n baffiwr proffesiynol yn ei ieuenctid, ac enillodd bencampwriaeth pwysau trwm De a Gogledd Rhodesia yn 1925–27.[1]
Dechreuodd Welensky weithio i'r rheilffyrdd yn 1924 a bu'n aelod gweithgar o Undeb Gweithwyr y Rheilffyrdd. Fe'i etholwyd i gyngor cenedlaethol yr undeb a gwasanaethodd yn gadeirydd yr undeb o 1953 i 1963. Fe'i etholwyd yn aelod o Gyngor Deddfwriaethol Gogledd Rhodesia yn 1938, a fe'i penodwyd yn aelod o'r Cyngor Gweithredol yn 1946. Sefydlodd Welensky Blaid Lafur Gogledd Rhodesia yn 1941. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1953.[1]
Yn 1953, sefydlwyd Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, a ffurfiodd Welensky a Syr Godfrey Huggins y Blaid Ffederal. Gwasanaethodd Welensky yn ddirprwy dan y Prif Weinidog Huggins o 1953 i 1956, ac yn brif weinidog o 1956 i 1963. Daeth y ffederasiwn i ben yn 1963, ac ymgyrchodd Welensky yn etholiad De Rhodesia yn 1964, ond methiant fu ei ymdrechion.[1]
Cafodd un mab ac un ferch gyda'i wraig gyntaf Elizabeth, a fu farw yn 1970. Priododd â'i ail wraig, Valerie, yn 1972, a chawsant ddwy ferch. Symudodd Welensky i Loegr yn 1981, a bu farw yn Blandford Forum, Dorset, yn 84 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Sir Roy Welensky. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Chwefror 2020.
- ↑ (Saesneg) "Sir Roy Welensky, 84, Premier of African Federation, Is Dead", The New York Times (7 Rhagfyr 1991). Adalwyd ar 29 Chwefror 2020.