Ffenestr ddalennog

Mae ffenestr ddalennog wedi ei gyfansoddi o un, neu fwy, o baneli symudol, neu "ddalenni" sy'n ffurfio ffram i ddal cwarelau o wydr, sydd yn aml wedi eu gwahanu oddi wrth gwarelau eraill (neu "oleuadau") gan fariau cul mwntin.[1] Er fod unrhyw ffenestr o'r steil hyn o wydro yn dechnegol yn ffenestr ddalennog, defnyddir yn term yn anghynhwysol bron, i gyfeirio at ffenestri lle mae'r ddalen yn cael ei agor drwy lithro'r panel yn fertigol, neu yn llorweddol mewn steil a'i adnabyddir fel Yorkshire light neu dalen llithro. Mae ffenestri ddalenog yn gyffredin yn Ewrop ac yng nghyn-drefdigaethiau megis yr Unol Daleithiau a nifer o wledydd sy'n datblygu. Dywedir mai'r dyfeisiwr a'r gwyddonwr Seisnig, Robert Hooke, a gynlluniodd y ffenestr ddalenog.

Tŷ Sioraidd yn Lloegr gyda ffenestri ddalennog

Mae ffenestri ddalenog yn gyffredin mewn tai Sioraidd a Fictoraidd, mae gan y cynllun traddodiadol dri cwarel ar draws a dau ar i lawr ar y ddwy dalen, gan roi ffenestr chwech dros chwech. Adeiladwyd nifer fawr o dai Fictoraidd hwyr ac Edwardaidd maestrefol ym Mhrydain gan ddefnyddio ffenestri ddalenog maint safonol, tua 4 troedfedd mewn lled (1.2 medr) ond roedd maint y ffenestri cynnar yn amrywio yn eang.

Ffenestri ddalen anarferol o lydan (tua 2m) mewn tafarn yn Bromyard, Swydd Henffordd

Ffynonellau

golygu
  1. A Visual Dictionary of Architecture, Francis Ching, Cyhoeddwyd: 1997, Van Nostrand Reinhold, Efrog Newydd ISBN 0-442-02462-2

Dolenni Allanol

golygu