Robert Hooke
Gwyddonydd, athronydd a dyfeisiwr o Sais oedd Robert Hooke (28 Gorffennaf [H.A. 18 Gorffennaf] 1635 – 3 Mawrth 1703).
Robert Hooke | |
---|---|
Ganwyd | 18 Gorffennaf 1635 (yn y Calendr Iwliaidd) Freshwater |
Bu farw | 3 Mawrth 1703 (yn y Calendr Iwliaidd) Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | pensaer, seryddwr, ffisegydd, dyddiadurwr, academydd, athronydd, dyfeisiwr, biolegydd, naturiaethydd |
Swydd | secretary of the Royal Society |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Micrographia, Hooke's law, Church of St Mary Magdalene, Montagu House, Bethlem Royal Hospital at Moorfields |
Tad | John Hooke |
Mam | Cecily Gyle |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Robert Hooke | |
---|---|
Portread modern o Robert Hooke (gan Rita Greer 2004), yn seiliedig ar ddisgrifiad gan John Aubrey a Richard Waller (m. 1715). | |
Ganwyd | 28 Gorffennaf (H.A. 18 Gorffennaf) 1635 Freshwater, Ynys Wyth, Lloegr |
Bu farw | 3 Mawrth 1703 (67 oed) Llundain |
Cenedligrwydd | Sais |
Meysydd | Ffiseg a Chemeg |
Sefydliadau | Prifysgol Rhydychen |
Alma mater | Eglwys Crist, Rhydychen |
Academic advisors | Robert Boyle |
Enwog am | Deddf Hooke Microsgopeg y defnydd o'r gair 'cell' |
Dylanwadau | Richard Busby |
Efallai y gellir rhannu ei fywyd yn dair rhanː y gwyddonydd ymchwilgar, diarian; y gweithiwr caled, ariannog ac yn drydydd y cyfnod o salwch mawr a chenfigen cydweithwyr. Efallai mai'r rheswm pam na fu tan heddiw yn llygad y cyhoedd, rhyw lawer, yw'r trydydd, er i Alan Chapman, yn ddiweddar ei alw'n "Leonardo Lloegr".
Gwnaeth lawer o arbrofion ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor y Gymdeithas. Roedd hefyd yn Athro ac yn 'Brif Syrferwr Llundain', yn dilyn tân mawr 1666 - gan fynd ati i wneud dros hanner yr arolygon ar ei liwt ei hun. Roedd hefyd yn bensaer pwysig iawn ar y pryd; bellach fodd bynnag, dim ond llond dwrn o adeiladau o'i eiddo sydd bellach yn sefyll. Creodd nifer o gyfyngiadau cynllunio ar gyfer Llundain, ac mae eu dylanwad yn parhau hyd heddiw yn y byd cynllunio.[1]
Yn ei lyfr Early Science in Oxford mae Robert Gunther yn neilltuo 5 rhan allan o gyfanswm o 14 i Hooke.
Braslun o'i waith
golyguAstudiodd Hooke yng Ngholeg Wadham ble roedd yn aelod o grŵp o Frenhinwyr, gyda dyn o'r enw John Wilkins yn eu harwain. Gweithiodd Hooke fel cynorthwyydd i'r meddyg Thomas Willis a hefyd i'r Gwyddel Robert Boyle, un o'r cemegwyr cyntaf. I Boyle, adeiladodd sawl pwmp gwactod ('vacuum pump') a ddefnyddiwyd ganddo yn ei arbrofion. Creodd hefyd rai o'r telesgopau Gregoraidd cyntaf, ac arsylwyd ar gylchdro'r planedau Mawrth ac Iau. Ysbrydolodd eraill i ddefnyddio meicrosgopau pan gyhoeddodd lyfr am y pwncː Micrographia. Rhagflaenodd Darwin gydag ambell gysyniad ym maes esblygiad, wedi iddo ddefnyddio offer tebyg i'r meicrosgop i edych yn fanwl ar ffosiliau[2][3].
Ymchwiliodd y ffenomenon o blygiant a thraethodd am theori tonnau golau. Ef oedd y cyntaf hefyd i esbonio fod mater yn chwyddo pan gaiff ei gynhesu a bod aer yn cael ei wneud allan o ronynnau mân gyda chryn bellter rhyngddynt.
Roedd y gwaith a wnaeth fel syrfewr a mapiwr hefyd o flaen ei amser ac yn gynsail i lawer o'r gwaith a ddefnyddir heddiw gyda'r map-ffurf-cynllun. Gwrthodwyd ei gynnig o osod y Llundain newydd (wedi tân 1666) ar ffurf grid, a derbyniwyd cynllun mwy confensiynol a oedd yn dilyn lleoliad yr hen strydoedd.
Bron iddo brofi fod disgyrchiant yn dilyn 'deddf sgwâr gwrthdro' (inverse square law) a rhagwelodd fod perthynas fel hyn hefyd yn rheoli symudiad y planedau, syniadau a ddatblygwyd ymhellach gan Syr Isaac Newton.[4] Gwnaeth lawer o'r arbrofion hyn fel 'ceidwad arbrofion' y Gymdeithas Frenhinol, swydd a gafodd yn 1662, a hefyd fel cyfaill Robert Boyle.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chapman, Alan (1996). "England's Leonardo: Robert Hooke (1635–1703) and the art of experiment in Restoration England". Proceedings of the Royal Institution of Great Britain 67: 239–275. http://home.clara.net/rod.beavon/leonardo.htm. Adalwyd 2015-07-06.
- ↑ Drake, Ellen Tan (2006). "Hooke's Ideas of the Terraqueous Globe and a Theory of Evolution". In Michael Cooper and Michael Hunter (gol.). Robert Hooke: Tercentennial Studies. Burlington, Vermont: Ashgate. tt. 135–149. ISBN 978-0-7546-5365-3.CS1 maint: uses editors parameter (link)
- ↑ Drake, Ellen Tan (1996). Restless Genius: Robert Hooke and His Earthly Thoughts. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-506695-1.
- ↑ Encyclopaedia Britannica, 15fed Rhifyn, cyfr.6 tud. 44