Ffermwr

(Ailgyfeiriad o Ffermwyr)

Person sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth, i fagu da byw neu i dyfu bwyd neu ddeunydd crai ar fferm, yw ffermwr. Gall ffermwr fod yn berchen ar ei dir ei hun, neu rentu tir, neu yn llai aml, gall ffermio tir ar gyfer pobl eraill. Fel arfer cysidrir eraill sy'n gweithio ar ran y ffermwr yn weithwyr fferm, ac nid ffermwyr.

Ffermwr defaid Cymreig gyda'i gi.
Ffermwr Pînafal yn Ghana.

Bydd ffermwr fel arfer yn gwneud cyfuniad o amryw o bethau ar dir ffermio gan gynnwys tyfu cnydau mewn caeau, perllan neu winllan, a magu dofednod neu dda byw arall megis gwartheg, moch neu ddefaid. Gall gwerthu eu cynnyrch i farchnad, archfarchnad neu mewn marchnad ffermwyr, neu yn syth o siop y fferm. Mewn economi ymgynhaliol, bydd cynnyrch y fferm yn cael ei ddefnyddio gan deulu'r fferm neu'r gymuned, yn hytrach na'i werthu.

Ffermwyr enwog

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am ffermwr
yn Wiciadur.