Alun Elidyr
Ffermwr a darlledwr Cymreig yw Alun Edwards, adnabyddir ef fel Alun Elidyr (ganwyd yn 1959), a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Bryncoedifor a Rhydymain, ac yna yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Ar hyn o bryd, mae'n cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C.
Alun Elidyr | |
---|---|
Alun Elidyr yn 2008 | |
Ganwyd | 1959 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, ffermwr |
Cyflogwr |
Gyrfa actio
golyguWedi gadael ysgol, aeth yn ei flaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle bu'n astudio drama. Dechreuodd ei yrfa actio gyda Theatr Crwban, a bu'n gweithio i nifer o gwmniau drama wedi hynny gan gynnwys Theatr Bara Caws, Theatrig, Cwmni Theatr Gwynedd, Brith Gof, Dalier Sylw ac Arad Goch. Ymysg ei gynyrchiadau niferus mae Plas Dafydd ac Y Bacchai.
Cafodd Alun gyfnod hefyd yn gweithio fel Darlithydd Drama ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Hyd yn oed cyn iddo ymuno â thîm cyflwyno Ffermio yn Ionawr 2005, roedd yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C gan iddo actio mewn nifer o gynyrchiadau ar y Sianel gan gynnwys Coleg, Yr Heliwr, Y Parc, Rownd a Rownd, Tipyn o Stad a Lleifior, lle bu'n chwarae gwas y fferm, Maldwyn Vaughan.
Bywyd personol
golyguYn dilyn marwolaeth ei dad, trodd Alun ei gefn ar fyd actio ac ymgymryd ag awenau'r fferm deuluol ger Rhydymain, Dolgellau. Mae'n rhannu'i amser rhwng y fferm deuluol yn Rhydymain â'i gartref yn Nhalybont, Aberystwyth lle mae'n byw gyda'i bartner Catrin a'u merch Elan.[1]
Yn Sioe Llanelwedd 2018 cafodd ei anrhydeddu gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am ei gyfraniad i fyd amaeth. [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Whatever the name, Alun knows how to keep busy", walesonline.co.uk, 18 Medi 2007.
- ↑ Undeb yn anrhydeddu actor a ddaeth adref yn ôl i ffermio , Golwg360, 26 Gorffennaf 2018.