Fferylliaeth
(Ailgyfeiriad o Fferyllfa)
- Efallai eich bod yn chwilio am alcemeg.
Yr alwedigaeth iechyd sy'n cysylltu'r gwyddorau iechyd â chemeg yw fferylliaeth er mwyn cadarnhau'r defnydd diogel o feddyginiaeth. Mae hefyd yn cynnwys y rôl traddodiadol o gyfansoddi a dosbarthu moddion yn ôl cyfarwyddiadau meddyg. Gelwir person proffesiynol ym maes fferylliaeth yn fferyllydd, ac mae'n gweithio mewn fferyllfa, sef canolfan neu labordy i baratoi a dosbarthu meddyginaeth. Gall fferyllfa fod yn adran mewn ysbyty neu'n siop ar y Stryd Fawr. Daw'r gair "fferyllfa" ei hun o'r ffurf Gymraeg Canol ar enw'r bardd Lladin Virgil (Fferyll).