Fyrsil

bardd Rhufeinig (canrif 1af CC)
(Ailgyfeiriad o Fferyllt)

Roedd Publius Vergilius Maro, Fyrsil neu Fferyll yn Gymraeg (15 Hydref 70 CC21 Medi 19 CC) yn fardd yn yr iaith Ladin sydd yn fwyaf adnabyddus am gyfansoddi'r arwrgerdd Yr Aeneid. Mae'r gerdd yn efelychu arwrgerddi'r bardd Groeg cynnar Homeros ac yn adrodd hanes yr arwr Aeneas, a ddihangodd o Gaerdroea i sefydlu dinas a oedd yn rhagflaenydd i Rufain. Comisiynwyd y gerdd gan yr ymerawdwr Cesar Awgwstws er mwyn hyrwyddo'r Ymerodraeth Rufeinig newydd. Mae gweithiau eraill Fyrsil yn cynnwys yr Eclogae a'r Georgicon.

Fyrsil
Ganwyd15 Hydref 70 CC Edit this on Wikidata
Andes Edit this on Wikidata
Bu farwBrindisi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBugeilgerddi Fyrsil, Georgics, Aenid Edit this on Wikidata
Arddullarwrgerdd, pastoral poetry Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAulus Furius Antias, Homeros, Theocritos Edit this on Wikidata
MudiadAugustan poetry Edit this on Wikidata
MamMagia Polla Edit this on Wikidata
PerthnasauVergilia Vera Edit this on Wikidata

Gwaith Fyrsil golygu

Mae nifer o gerddi llai yn cael eu priodoli iddo dan yr enw Appendicis Vergilianae:

Fyrsil yn yr Oesoedd Canol golygu

Yn yr Oesoedd Canol ystyrid Fyrsil yn fardd cynddelwrol a osodododd sylfeini'r grefft farddol. Credid yn ogystal ei fod yn fath o ddewin neu broffwyd a ragwelodd ddyfodiad Crist.

Cyfieithiadau golygu

Ym 1636 cyfieithwyd testun gan Fyrsil gan yr awdur a'r dramodydd Syr John Denham, o'r enw The Destruction of Troy, An Essay upon the Second Book of Virgils Æneis, ond ni chafodd ei gyhoeddi tan 1656.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato